Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau eich amser yma ym Mhrifysgol Abertawe a byddem wrth ein bodd pe baech yn aros gyda ni ychydig yn hirach. Mae ein cyrsiau meistr yn ffordd wych o wella eich rhagolygon proffesiynol a'ch arbenigedd.

Diddordeb astudio am feistr? Wel, mae newyddion gwych gennym ni! Rydym yn gyffrous i gynnig opsiwn ymgeisio llwybr carlam i chi i astudio un o'n graddau meistr gan ddechrau ym mis Medi 2025. Mae'n gyflym ac yn hawdd, a byddwch yn derbyn penderfyniad o fewn 48 awr!

Chwiliwch i weld a yw un o'r rhaglenni meistr sydd ar gael yn addas i chi a'ch diddordebau.

Yn ddiweddar, rydym wedi lansio system cyflwyno ceisiadau newydd.Os hoffech gael y cyfle i ddefnyddio ein hopsiwn cyflwyno cais Carlam, dilynwch y cyfarwyddiadau isod.

1. Sgroliwch i lawr i weld ein rhestr o gyrsiau sydd ar gael ar Lwybr Carlam.

2. O'r dudalen cwrs berthnasol, cliciwch ar y botwm Ymgeisio a dilynwch y cyfarwyddiadau i gyrraedd tudalen cyflwyno cais Porth Dysgwyr Prifysgol Abertawe.

3. Dylai fod gennych gyfrif Porth Dysgwyr i gwblhau cais:

  • Deiliaid cyfrif - mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair i greu cyfrif Porth Dysgwyr;
  • Myfyrwyr heb gyfrif - gallwch greu cyfrif fel defnyddiwr newydd drwy ddilyn y cyfarwyddiadau cofrestru cam wrth gam.

4. Llenwch y ffurflen gais. Fel myfyriwr presennol Prifysgol Abertawe

  • ni fydd yn rhaid i chi anfon trawsgrifiad atom na geirda neu ddatganiad wedi'i gwblhau o ran pam rydych am barhau â'ch astudiaethau gyda ni;
  • bydd angen i chi lanlwytho dogfen Word wag o dan 'Datganiad Personol' a 'Geirda' â’r teitl 'Llwybr Carlam 2025'. Ni fydd y system yn gadael i chi gyflwyno eich cais heb ddogfen wedi'i hatodi.
  • yn 'sut clywsoch chi am y cwrs', dewiswch 'Rwyf eisoes yn fyfyriwr yn Abertawe'.

Os ydych eisoes wedi cyflwyno cais am Lwybr Carlam o fis Medi 2025, nid oes angen i chi gyflwyno cais arall drwy ein porth newydd. Byddai hyn ond yn angenrheidiol os ydych yn penderfynu gwneud cais am gyrsiau ychwanegol.

Cyflwynwch Gais Nawr

Cyfadran y Dyniaethau A’r Gwyddorau Cymdeithasol

Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd