Gofyniad mynediad y MSc drwy Ymchwil mewn Peirianneg Fecanyddol yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn Peirianneg neu mewn disgyblaeth berthnasol debyg.
Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth ddarpar fyfyrwyr ledled y byd, ac yn chwilio am dystiolaeth gyfwerth â'r gofynion mynediad a nodwyd uchod. Mae'r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig yn hapus i’ch cynghori ynghylch a yw'ch cymwysterau’n addas ar gyfer mynediad i’r cwrs yr hoffech ei astudio. Anfonwch e-bost at admissions@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd angen i chi fod wedi pasio’n ddigonol mewn cymhwyster Iaith Saesneg derbyniol i wneud yn sicr y cewch y budd mwyaf o astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, yn cynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe Prawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gyda sgôr isaf o 6.5 a 5.5. yn y ddau ran). Ceir rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol yma.
Yn ogystal â chymwysterau academaidd, gellir seilio penderfyniadau ynghylch
derbyn myfyrwyr ar ffactorau eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
safon y crynodeb/cynnig ymchwil, perfformiad yn ystod y cyfweliad, lefel y
gystadleuaeth am leoedd cyfyngedig a phrofiad proffesiynol perthnasol.
Angen Tystysgrif y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS)
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr o’r tu allan i’r DU/yr UE gael cymeradwyaeth ATAS
am y rhaglen astudio hon. Bydd tîm Derbyn Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol yn
anfon manylion am sut i wneud cais ATAS at ymgeiswyr llwyddiannus. Gellir gweld
manylion pellach am gynllun ATAS ar dudalen we Cynllun
Cymeradwyo Technoleg Academaidd y Llywodraeth.
Gofyniad am eirda
Yn arferol, gofynnir am ddau eirda cyn y gallwn anfon ceisiadau i Diwtor Derbyn rhaglenni ymchwil y Coleg/Ysgol i'w
hystyried.
Caiff ceisiadau a dderbynnir heb ddau eirda wedi'u hatodi atynt eu gohirio nes y derbynnir y geirda sy'n weddill.
Sylwer y gall oedi hir wrth dderbyn y geirda sy'n weddill arwain at ohirio'ch cais tan ddyddiad cychwyn/mis derbyn
posib diweddarach, o'i gymharu â'r dyddiad y rhestroch yn gychwynnol fel y dyddiad dechrau o'ch dewis.
Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â'ch canolwr (canolwyr) i'n cynorthwyo wrth dderbyn y geirda sy'n weddill neu,
fel arall, gallwch ohirio cyflwyno'ch cais nes eich bod wedi dod o hyd i'ch geirda. Sylwer nad cyfrifoldeb Swyddfa
Derbyn y Brifysgol yw dod o hyd i'r geirda sy'n weddill ar ôl i ni anfon e-bost cychwynnol at y canolwyr (canolwyr)
a enwebwyd gennych, gan ofyn am eirda ar eich rhan chi.
Gall y geirda hwn fod ar ffurf llythyr ar bapur pennawd swyddogol neu gellir ei gyflwyno ar ffurflen geirda safonol y
Brifysgol. Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho ffurflen
geirda'r Brifysgol.
Fel arall, gall canolwyr anfon geirda mewn e-bost o'u cyfrif e-bost gwaith. Sylwer na ellir derbyn geirda a anfonir
oddi wrth gyfrifon e-bost preifat, (h.y. Hotmail, Yahoo, Gmail).
Gellir cyflwyno geirda i pgradmissions@abertawe.ac.uk.