Trosolwg o'r Cwrs
Mae PhD neu MPhil yn y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.
Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis y cyfryngau a chyfathrebu, addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.
Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.
Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 90,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).
Yn y ddwy raglen, byddwch yn ymgymryd â gwaith ymchwil gwreiddiol, o dan oruchwyliaeth ein harbenigwr, gan lunio thesis a fydd yn gwneud cyfraniad gwreiddiol at faes y cyfryngau a chyfathrebu.
Mae ein staff yn aelodau o'r grŵp ymchwil, Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol (CODAH).
Mae ein harbenigedd yn cynnwys:
- Astudiaethau Ffilm, yn arbennig sinema Ewropeaidd a Hollywood
- Y cyfryngau byd-eang, newyddiaduraeth a chyfathrebu rhyngwladol
- Y cyfryngau digidol ac actifiaeth gymdeithasol
- Mudo a chyfathrebu
- Y cyfryngau digidol
- Hanes ac athroniaeth technoleg
- Cysylltiadau Cyhoeddus, Brandio a Marchnata
Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol eich prosiect. Gwneir hyn ar ffurf cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod eich tymor cyntaf a chynhelir cyfarfodydd ar gyfnodau rheolaidd y cytunir arnynt wedi hynny.
Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau a chyfathrebu, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i Ôl-raddedigion.
Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.