Trosolwg o'r Cwrs
Dyddiadau Cychwyn: 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.
Mae MA drwy Ymchwil mewn Llenyddiaeth Saesneg yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol sylweddol o safon ddigon da i'w gyhoeddi.
Bydd eich prosiect yn cymryd blwyddyn i'w gwblhau'n llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan amser. Mae'n addas os ydych yn awyddus i ymgymryd â gradd ymchwil gyntaf fel elfen ar wahân ar ddiwedd eich cyfnod o astudiaethau wedi'u haddysgu, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gwaith ymchwil pellach ar ffurf PhD.
Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 40,000 o eiriau, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol â chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).
Mae nifer o grwpiau ymchwil hefyd yn cynnig ffocws a chymuned i aelodau o staff ac ôl-raddedigion:
- y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Canoloesol a'r Cyfnod Modern Cynnar (MEMO)
- y Ganolfan Ymchwil i'r Rhywiau mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)
- Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg yng Nghymru (CREW)
Rydym yn cynnig goruchwyliaeth yn y rhan fwyaf o feysydd llenyddiaeth o'r canol oesoedd hyd at y presennol. Mae ein cryfderau ymchwil penodol yn cynnwys y canlynol:
- Ysgrifennu Cymreig yn yr iaith Saesneg
- Llenyddiaeth Americanaidd
- Rhywedd
- Ysgrifennu a diwylliant y Canol Oesoedd, Y Dadeni, y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
- Moderniaeth ac ôl-foderniaeth
- Barddoniaeth Wyddelig
- Llenyddiaeth gyfoes
- Damcaniaeth gritigol a diwylliannol
- Ffuglen Wyddonol ac Ecoleg/Amgylcheddaeth
- Astudio Pobl ac Anifeiliaid
Byddwch yn cytuno ar eich prosiect drwy ymgynghori â goruchwylwyr ac rydym yn argymell y dylid dechrau'r trafodaethau hyn cyn gwneud cais, er mwyn helpu i lunio cynnig cychwynnol.
Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol y prosiect. Fel rhan o'r broses, cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod eich tymor cyntaf a chynhelir cyfarfodydd ar gyfnodau rheolaidd y cytunir arnynt wedi hynny.
Fel myfyriwr ymchwil, mae'n ofynnol i chi fynychu cyrsiau sgiliau a hyfforddiant. Byddwch yn gwneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, yn symposiwm blynyddol yr adran i ôl-raddedigion ym mis Mehefin, ac yng nghynhadledd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau i Ôl-raddedigion.