Mae'n hawdd cwblhau ein ffurflen gais ar-lein

Gellir cyflwyno cais am y rhan fwyaf o'n rhaglenni ymchwil ôl-raddedig ar-lein drwy ein system Apply. Sylwer bod proses wahanol ar gyfer cyflwyno cais am ein cyrsiau ysgoloriaeth a ariennir yn llawn gan Brifysgol Abertawe:

https://www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ysgoloriaethau/ysgoloriaethau-ymchwil-/

Cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn drwy e-bost os oes gennych broblemau wrth ddefnyddio system cyflwyno cais ar-lein 'APPLY'.

SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (ffurflen ar-lein)

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.