Trosolwg o'r Cwrs
Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.
Mae pwysau’n cynyddu ar ein hadnoddau dŵr cyfyngedig. Wrth i fwy a mwy o bobl fod angen dŵr glân, rhaid i atebion effeithiol ddod o ailddefnyddio dŵr yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae’r Ganolfan ar gyfer Technolegau Dŵr Uwch ac Ymchwil Amgylcheddol (CWATER) yn ganolfan ragoriaeth sy’n arwain yn rhyngwladol ym maes datblygu technolegau uwch i drin dŵr.
Mae’r Ganolfan ar ei hennill oddi wrth arbenigedd sy’n arwain y byd ym maes dihalwyno ar gyfer trin dŵr.
Caiff y rhaglen hon ei chynnal yng Nghampws y Bae, Prifysgol Abertawe o fis Medi 2015.
Mae meysydd ymchwil y Ganolfan ar gyfer Technolegau Dŵr Uwch ac Ymchwil Amgylcheddol (CWATER), yn fras, yn mynd i un o dri chategori:
- Trin dŵr yfed: dulliau gwell o drin dŵr y gellir ei yfed, gyda llygad ar gyrraedd rheoliadau sy’n tynhau am gostau cyfalaf a chostau rhedeg is.
- Trin dŵr gwastraff: technolegau ar gyfer tynnu ymaith effeithiol ddeunyddiau sy’n andwyol i’r amgylchedd ac o ganlyniad leihau allyriadau fesul allbwn pob arllwysiad.
- Trin dŵr prosesu: dulliau ar gyfer trin nentydd prosesu er mwyn galluogi ailgylchu dŵr a rhyngolynnau cemegol gwerthfawr.
Mae gan yr MSc drwy Ymchwil i Ddihalwyno ac Ailddefnyddio Dŵr ystod eang o ddewis-bynciau gan gynnwys:
- Prosesau modelu pilenni
- Cymeriadu pilen a phroses
- Sylweddau peryglus
- Osoneiddio a Phrosesau Ocsideiddio Uwch (AOPs)
- Astudiaethau maint peilot
Rydym wedi'n rancio:
- Ymysg y 201-250 gorau yn y byd ar gyfer Peirianneg Gemegol (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)