Peirianneg Biofeddygol: Ysgoloriaeth Ymchwil PhD wedi'i hariannu'n llawn mewn Rheoleg ac Afiechydon Gwaed (RS735)
Dyddiad cau: 3 Ionawr 2025
Gwybodaeth Allweddol
Mae hon yn Ysgoloriaeth Ymchwil cyfrwng Cymraeg i gychwyn ym mlwyddyn academaidd 2025/26 wedi ei chyllido yn llawn neu’n rhannol drwy Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe hefyd wedi sicrhau cyllid cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) canolog y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gydnabod y Gymraeg rydym wedi neilltuo hyd at 4 ysgoloriaeth wedi eu hariannu 50% a all gyfateb i’r hyn mae'r Coleg Cymraeg yn ei ariannu a darparu ysgoloriaethau wedi'u hariannu’n llawn, yn cynnwys ffioedd, cyflog a Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil (RTSG).
Pwnc:
Peirianneg Biofeddygol
Dyddiad dechrau’r prosiect:
Hydref (2025)
Ionawr (2026)
Goruchwylwyr:
Dr Rob Daniels
Dr Dan Curtis
Rhaglen astudio wedi’i halinio:
Peirianneg Biofeddygol, PhD
Dull Astudio:
Gellir astudio yn llawn amser neu ran amser
Disgrifiad o’r prosiect:
Mae ymchwil parhaol yng Nghyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe ar rheoleg hylifau cymhleth yn berthnasol iawn i’r byd iechyd, yn enwedig i’r broblem bwysig o sut yn union mae gwaed yn medru tewychu yn y corff.
Mae’r ymchwil rheolegol hyn yn angenrheidiol er mwyn deall yn well sut mae afiechydon tebyg yn y gwaed, fel thromobosis, yn cael effaith andwyol ar iechyd miliynau o bobl ledled y byd, bob blwyddyn.
Yn y prosiect ymchwil hwn fe fyddwn yn gwneud arbrofion rheolegol ar geliau fibrin, collagen, a gwaed, er mwyn astudio’r broses dewychu yma yn fwy manwl. Ochr yn ochr a’r gwaith arbrofol hyn byddwn hefyd yn disgrifio’r broses dewychu trwy ddefnyddio modelau mathemategol soffistigedig.
Yn y pen draw, un o amcanion y prosiect fydd i geisio awgrymu therapiau, neu driniaethau newydd, ar gyfer afiechydon y gwaed, fel thrombosis.
Mae ymchwil yn Abertawe, sy'n ymwneud â throsi technegau a ddefnyddir i nodweddu a thrin hylifau cymhleth diwydiannol i faes Technolegau Gofal Iechyd, wedi dangos defnyddioldeb clinigol y pwynt gel (GP) mewn monitro ceulo a chymwysiadau theranostig. Mae'r GP yn digwydd pan fydd sampl sy'n mynd trwy’r broses geliad yn trawsnewid o gyflwr tebyg hylif i gyflwr tebyg solet. Datblygwyd technegau ar gyfer monitro trawsnewidiad o'r fath i'w defnyddio yn y diwydiannau plastig a bwyd sawl degawd yn ôl oherwydd perthnasedd y ffenomenau mewn, er enghraifft, mowldio chwistrellu a phrosesau coginio. Cwestiwn perthnasol oedd “pa mor hir mae angen i'r deunydd hwn 'osod'?". Yn ogystal â'r wybodaeth amserol y gellir ei gael o arbrofion o'r fath (h.y. yr amser sydd ei angen i ffurfio gel), mae gwybodaeth am briodweddau mecanyddol rhwydwaith microstrwythurol geliau hefyd ar gael. Mae'r priodweddau mecanyddol yn sensitif i ficrostrwythur y rhwydwaith gel cychwynnol sy'n aml yn dangos nodweddion ffractal. O ran monitro ceulo, mae'r GP yn nodweddu genedigaeth ceulad gwaed yn nhermau paramedr amser (amser gel) a pharamedr microstrwythurol (trwy briodweddau mecanyddol clotiau) ac felly y dangoswyd eu bod yn fiofarcwr ar gyfer 'ceulad iach '.
Yn y prosiect hwn byddwn yn archwilio’r berthynas rhwng microstrwythur a rheoleg mewn systemau gel biopolymer (gan gynnwys ffibrin, colagen a geliau alginad) gan ddefnyddio dulliau arbrofol a mathemategol. Bydd agweddau arbrofol y prosiect yn cynnwys defnyddio technegau uwch rheometrig a delweddu i astudio'r broses geliad yn y geliau hyn ac ymchwilio i effaith hyblygrwydd y polymer ar briodweddau microstrwythurol y rhwydweithiau gel. Ochr yn ochr â’r gwaith arbrofol, byddwn yn datblygu modelau mathemategol uwch i ddisgrifio’r berthynas rhwng rheoleg a nodweddion microstrwythurol y geliau biopolymer.
Bydd cwblhau'r prosiect hwn yn llwyddiannus yn arwain at naill ai (i) sylfaen o dystiolaeth sy'n cefnogi'r defnydd o fodelau presennol i ddisgrifio'r berthynas rhwng microstrwythur-rheoleg mewn geliau biopolymer, neu (ii) gwell dealltwriaeth o ddibyniaeth strwythur rhwydweithiol y geliau ar hyblygrwydd cadwyn biopolymer.
Bydd y naill ganlyniad neu'r llall yn hwyluso gwell dealltwriaeth o effaith patholegau ceulo ar berthnasoedd microstrwythur-rheoleg-swyddwaith mewn clotiau gwaed. Yn y pen draw, mae gan y prosiect y potensial i lywio dyluniad strategaethau triniaeth optimaidd (penodol i gleifion) a therapïau gwrthgeulo newydd.
Rhennir y gwaith ymchwil i 4 pecyn gwaith:
Pecyn Gwaith 1
Asesiad o effaith crynodiadau biopolymer/croesgysylltu ar nodweddion rheolegol y gel cychwynnol. Bydd y pecyn gwaith hwn yn canolbwyntio ar ddeunyddiau model ac yn caniatáu i'r myfyriwr ennill y sgiliau arbrofol angenrheidiol i hwyluso'r pecynnau gwaith eraill.
Pecyn Gwaith 2
Trwy dadansoddiad mathemategol o ffurfiant y GP, fe fyddwn yn ehangu fodelau polymer hyblyg i fodelau lled-hyblyg. Fel rhan o'r pecyn gwaith hwn byddwn hefyd yn ystyried priodweddau rheolegol aflinol, yn ogystal a llinol. Mae dadansoddiad aflinol o'r fath yn addo darparu gwell gwahaniaethu rhwng y microstrwythurau gel na dadansoddiad llinol yn unig.
Pecyn Gwaith 3
Agwedd dechnolegol allweddol fydd datblygu dull newydd o archwilio priodweddau rheolegol aflinol esblygol yn ystod y broses tewychu. Bydd hyn yn seiliedig ar egwyddorion gabor-rheometreg – techneg o'r radd flaenaf nas defnyddiwyd erioed o'r blaen yng nghyd-destun samplau gelio. Mae nifer o rwystrau technolegol y bydd angen i'r myfyriwr eu goresgyn yn y pecyn gwaith hwn. Mae un o oruchwylwyr y prosiect yn hyddysg iawn yn natblygiad technegau rheometrig newydd ac mae ganddo rywfaint o ddata rhagarweiniol sy'n dangos y defnydd o gabor-rheometreg ar gyfer samplau gellio sydd felly'n gwneud y pecyn gwaith hwn yn un addawol dros ben.
Pecyn Gwaith 4
- Asesiad o'r modelau a ddatblygwyd ym mhecyn gwaith 2 yn erbyn y data arbrofol a gafwyd ym mhecynnau gwaith 1 a 3;
- Ymestyn y gwaith i ddirprwyon clotiau gwaed (geliau ffibrin) gan gynnwys delweddu.
Rhagwelir y bydd pob pecyn gwaith yn dod i ben gyda chyhoeddiad a fydd yn arwain at draethawd ymchwil cryf ac effeithiol iawn.
Cymhwyster
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill, neu disgwylir iddynt ennill, gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a/neu ragoriaeth ar lefel meistr.
- Lle mae gan ymgeiswyr raddau meistr lluosog, rhaid cael rhagoriaeth yn y radd sydd fwyaf perthnasol i'r astudiaeth PhD arfaethedig.
- Os ydych ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel meistr gyda dyddiad dyfarnu disgwyliedig sy'n hwyrach na 01/10/2025, dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf.
- Dylech allu dangos llwyddiant gydag isafswm gradd cyfartalog o 70% o leiaf ar gyfer eich modiwlau gradd meistr rhan-un (yr agwedd a addysgir ar eich cwrs meistr yn hytrach na thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar ymchwil) a chyflwyno'ch traethawd hir erbyn ddim hwyrach na 30/09/2025.
DS: Os oes gennych radd y tu allan i'r DU, gweler cymariaethau gradd Prifysgol Abertawe i weld a ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.
Rhaid i ymgeiswyr allu dechrau eu cwrs astudio ym mis Hydref 2025 neu fis Ionawr 2026. Fel rhaglen sy'n seiliedig ar garfan, ni chaniateir gohirio i gyfnod cofrestru arall o fewn y flwyddyn academaidd neu flwyddyn academaidd arall.
Gofynion Iaith Gymraeg:
Mae gofynion mynediad safonol y rhaglen yn berthnasol, gyda’r gofyniad ychwanegol o allu ysgrifennu’n hyderus yn y Gymraeg (a/neu feddu ar radd C neu uwch TGAU mewn llenyddiaeth Gymraeg).
Cyllid
Ysgoloriaeth ar agor i fyfyrwyr sy'n gymwys am ffioedd y DU YN UNIG.
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffioedd dysgu ac ariantal blynyddol ar gyfradd UKRI (£19,237 ar hyn o bryd ar gyfer 2024/25).
Bydd treuliau ymchwil ychwanegol rhwng £500 a £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd.
Sut i wneud cais
I gyflwyno cais, cwblhewch eich cais ar-lein gan fewnbynnu'r wybodaeth ganlynol:
- Dewis Cwrs – dewiswch:
*Ar gyfer mis Hydref 2025 dewiswch:
(Amser llawn) Peirianneg Biofeddygol / PhD / Amser llawn / 3 blynedd / Hydref
(Rhan-amser) Peirianneg Biofeddygol / PhD / Rhan-amser / 6 blynedd / Hydref
NEU
*Ar gyfer mis Ionawr 2026 dewiswch:
(Amser llawn) Peirianneg Biofeddygol / PhD / Amser Llawn / 3 blynedd / Ionawr
(Rhan-amser) Peirianneg Biofeddygol / PhD / Rhan-amser / 6 blynedd / Ionawr
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am y rhaglen hon, mae’n bosib y bydd y system ymgeisio’n rhoi hysbysiad rhybuddio a’ch atal rhag cyflwyno cais. Os bydd hyn yn digwydd, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk lle bydd staff yn hapus i’ch helpu i gyflwyno eich cais.
- Blwyddyn dechrau – dewiswch 2025 neu 2026
- Cyllid (tudalen 8 ar y broses ymgeisio)
- ‘Ydych chi’n ariannu eich astudiaethau eich hun?’ – dewiswch Nac ydw
- ‘Enw’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n darparu cyllid i astudio’ – nodwch ‘RS735 – Clefydau Gwaed
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru’r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais. Sylwer na chaiff ceisiadau sy’n cael eu derbyn heb yr wybodaeth uchod eu hystyried am yr ysgoloriaeth.
Mae angen cyflwyno un cais yn unig ar gyfer pob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni fydd ceisiadau sy’n rhestru mwy nag un dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe yn cael eu hystyried.
SYLWER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i lenwi eich Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (ffurflen ar-lein)
Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno.
Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:
- CV
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (os ydych yn astudio am radd ar hyn o bryd, bydd sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol)
- Llythyr eglurhaol, gan gynnwys ‘Datganiad Personol Atodol’ i esbonio pam mae'r rôl yn gweddu'n arbennig i'ch sgiliau a'ch profiad, a sut byddwch yn dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n dangos cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi cyfeiriad e-bost eu swydd er mwyn dilysu'r geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofyniad Iaith Saesneg (lle bo'n briodol).
- Copi o fisa preswylydd y DU (lle bo'n briodol)
- Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Tystiolaeth o fodloni gofyniad Iaith Gymraeg
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â Dr Luke Roberts (l.d.roberts@abertawe.ac.uk) neu Dr Alwena Morgan (a.h.morgan@abertawe.ac.uk)
*Rhannu Data o Geisiadau â Phartneriaid Allanol – sylwer, fel rhan o broses ddethol y cais am ysgoloriaeth, gallwn rannu data o geisiadau â phartneriaid y tu allan i’r brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.