Dyddiad cau: 18 Gorffennaf 2024

Gwybodaeth Allweddol

Cymhwyster

Rhaid bod gan ymgeiswyr radd israddedig ar lefel 2.1 neu'n uwch (neu gymhwyster cyfwerth o'r tu allan i'r DU fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe)  (gweler cymwysterau gwledydd penodol). O ystyried natur drawsddisgyblaethol y radd Meistr hon, hoffem annog graddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth i gyflwyno cais.  Fodd bynnag, rydym yn annog yn benodol ymgeiswyr sydd â chymhwyster israddedig mewn Seicoleg, Marchnata, Peirianneg (gyda phrofiad LCA) a Gwyddor Amgylcheddol i gyflwyno cais. Sylwer y gall fod angen i chi gyflwyno tystiolaeth o'ch hyfedredd yn yr iaith Saesneg.

Oherwydd cyfyngiadau cyllidoar hyn o bryd mae'r ysgoloriaeth hon ar gael i ymgeiswyr sy'n 
gymwys i dalu ffioedd dysgu ar gyfradd y Deyrnas Unedig yn unig
, fel y diffiniwyd ganreoliadau UKCISA. 

Os oes gennyt gwestiynau am dy gymhwystra academaidd neu dy gymhwystra o ran ffioedd ar sail yr hyn sydd uchod, e-bostia pgrscholarships@abertawe.ac.uk ynghyd â'r ddolen i'r ysgoloriaeth(au) y mae gennyt ddiddordeb ynddi/ynddynt. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn cynnwys cost lawn ffioedd dysgu'r DU ac ariantal gwerth £19,327.

Sut i wneud cais