I staff, mae blwyddyn yr hawlen barcio flynyddol rhwng 1 Mehefin a 31 Mai.
Gall myfyrwyr gyflwyno cais am hawlenni parcio ym mis Medi bob blwyddyn a byddant yn ddilys tan 30 Medi y flwyddyn ganlynol.
- Darperir pob hawlen ar yr amod bod yr ymgeisydd yn cytuno i gydymffurfio â rheoliadau parcio ac amodau darparu hawlen y Brifysgol a gall Cyfarwyddwr Rheoli Ystadau a Chyfleusterau ei thynnu'n ôl mewn amgylchiadau penodol.
- Nid yw bod yn berchen ar hawlen yn sicrhau y cewch le parcio.
- Dylai pob cerbyd fod wedi'i drethu a dylai fod ganddo dystysgrif MOT a pholisi yswiriant dilys sy'n berthnasol i'w ddosbarth defnyddio cyn y darperir hawlen. Mae proses wirio ar waith yn www.gov.uk/check-vehicle-tax.
- Os bydd newidiadau i'w cerbydau, rhaid i ddeiliaid hawlenni staff ddiweddaru'r wybodaeth am eu hawlen ar-lein fel y gellir llwytho'r wybodaeth i gronfa ddata camerâu’r system ANPR. Os na wneir hyn, caiff Tâl Cosb Parcio ei roi'n awtomatig pan ddaw'r cerbyd i unrhyw un o'r campysau.
- Er mwyn annog defnydd o gerbydau allyriadau isel, bydd hawl gan staff i gael gostyngiad 30% ar yr Hawlen Staff ‘Lawn', ar yr amod bod POB cerbyd sydd wedi'i gofrestru am hawlen yn gymwys. Meini Prawf Cymhwyso: Mae'n rhaid i allyriadau CO2 pob cerbyd fod o dan 120g/km. Rhaid i staff â hawlen Allyriadau Isel roi gwybod i Estates-carparking@abertawe.ac.uk am unrhyw newid ym manylion y cerbyd fel y gellir llwytho'r wybodaeth i gronfa ddata camerâu’r system ANPR. Os na wneir hyn, caiff Tâl Cosb Parcio ei roi'n awtomatig pan ddaw'r cerbyd i unrhyw un o'r campysau.
- Dylai hawlenni gael eu harddangos yn amlwg ar y ffenestr flaen i alluogi staff Diogelwch y Brifysgol i weld yr hawlenni a chynnal gwiriadau'n hawdd. Sylwch fod y camerâu ANPR yn darllen rhifau cofrestru yn unig ac nad ydynt yn adnabod hawlenni.
- Darperir hawlenni y tu allan i oriau gwaith i fyfyrwyr am ffi weinyddol o £30. Mae'r rhain yn caniatáu mynediad i Gampws Parc Singleton a Champws y Bae rhwng 16:00 ac 08:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar y penwythnos, o 16:00 ar ddydd Gwener tan 08:00 ar ddydd Llun. Gorfodir y rheolau ynghylch hawlenni y tu allan i oriau ar Gampws y Bae a Champws Singleton. Sylwer nad oes hawl gan gerbydau â hawlenni y tu allan i oriau fod ar y campws nac ar safle Stiwdios y Bae o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 16:00 os ydych yn talu neu beidio. Bydd cerbydau sy'n gwneud hynny'n cael hysbysiad o dâl cosb drwy gamerâu System Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig (ANPR).
- Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr meysydd parcio'r Brifysgol gydymffurfio â chyfarwyddiadau staff Diogelwch y Brifysgol. Mae gan y staff gyfarwyddiadau dieithriad i wahardd mynediad i geir heb hawlen barcio, hyd yn oed os yw'r gyrrwr yn ddefnyddiwr awdurdodedig. Sylwer bod yr hawlen barcio ar gyfer yr aelod staff hwnnw a gyflwynodd gais amdani ac na ellir ei throsglwyddo i eraill.
- Dylid deall arwyddion a marciau'r ffordd yn unol â'r diffiniad yn y Deddfau Traffig Ffyrdd, a rhaid cydymffurfio â nhw.
- Gall perchennog/gyrrwr nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau a'r amodau defnyddio dderbyn hysbysiad o dâl.
- Rhoddir hysbysiad o dâl ar gerbyd sydd wedi'i barcio ar diroedd y Brifysgol heb awdurdod, neu ar gerbyd wedi'i awdurdodi sydd wedi'i barcio mewn lle nad awdurdodwyd.
- Rhoddir hysbysiad o dâl am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau parcio a'r amodau darparu fel a ganlyn:
- Heb barcio mewn lle parcio wedi'i farcio, neu heb barcio o fewn y llinellau
- Hawlen wedi'i harddangos mewn cerbyd nad yw wedi'i gofrestru i ddeiliad yr hawlen
- Nid yw’r hawlen yn ddilys ar gyfer y diwrnod / amser y mae'r cerbyd wedi parcio p'un a yw wedi talu ai peidio
- Gwelir mwy nag un cerbyd sydd wedi'i gofrestru i grŵp neu hawlen rhannu car yn un o feysydd parcio'r Brifysgol
- Peidio ag arddangos hawlen ddilys, neu beidio â thalu i barcio
- Cerbyd wedi'i barcio am gyfnod hwy na'r amser a ganiateir mewn lle parcio arhosiad byr neu le parcio llwytho yn unig
- Hysbysiad dros dro wedi dod i ben
- Parcio mewn mannau lle na chaniateir parcio, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
a. Heolydd â llinellau melyn
b. Ardaloedd wedi'u marcio â llinellau croes
c. Lleoedd parcio neilltuedig (dros dro neu barhaol)
d. Ardaloedd dim parcio
e. Lleoedd parcio i'r anabl (oni bai fod bathodyn glas dilys wedi'i arddangos)
f. Lawntiau neu ardaloedd wedi'u tirweddu
g. Palmentydd neu lwybrau cerdded
h. Lleiniau gwyrdd
i. Maes Parcio Ymwelwyr - Maes parcio 1 ar Gampws y Singleton, maes parcio ymwelwyr a maes parcio'r SoDdGA ar Gampws y Bae.
j. Unrhyw ardal arall lle gallai parcio achosi perygl neu niwsans i eraill
SYLWER: 'gellir' caniatáu i ddeiliaid hawlenni barcio mewn ardaloedd cyfyngedig, yn amodol ar gymeradwyaeth a chaniatâd penodol y staff diogelwch, ar yr amod na fydd hyn yn achosi perygl neu rwystr. Bydd y staff diogelwch yn rhoi hawlen eithriad i gerbydau sy'n parcio â chaniatâd. Bydd y ddogfen hon yn dangos rhif cofrestru'r cerbyd a dyddiadau ac amserau'r caniatâd. Mae'n rhaid arddangos hon mewn man amlwg nesaf at yr hawlen staff.
13. Gofynnir i berchnogion cerbydau sy'n derbyn hysbysiad o dâl dalu'r Cwmni Rheoli Parcio Ceir yn uniongyrchol. Mae manylion y taliadau a'r dulliau talu ar yr hysbysiad o dâl. Os nad yw cerbyd wedi cael ei symud 24 awr ar ôl rhoi hysbysiad o dâl, bydd hysbysiad arall yn cael ei roi am bob cyfnod 24 awr nes symudir y cerbyd. Rhoddir hysbysiad symud ar ôl saith niwrnod ar gerbydau sy'n cael eu gadael am fwy na saith niwrnod. Ar ôl y cyfnod hwn, caiff y cerbyd ei symud ar gost y perchennog.
14. Bydd system camerâu ANPR yn cynhyrchu hysbysiadau tâl yn awtomatig ar gyfer cerbydau heb hawlen a lle nad yw'r gyrrwr wedi talu i barcio. Mae'r system yn caniatáu digon o amser i gasglu a gollwng teithwyr.
15. Gellir cyfeirio tramgwyddwyr mynych at sylw Cyfarwyddwr Ystadau a Rheoli Cyfleusterau a gellir diddymu'r hawlen.
16. Bydd methiant i gydymffurfio ag arwyddion ffyrdd parhaol neu dros dro, neu â chyfarwyddiadau traffig gan y staff Diogelwch, yn cael ei gyfeirio at sylw Cyfarwyddwr Ystadau a Rheoli Cyfleusterau a gellir diddymu'r hawlen.
17. Gwrthodir ceisiadau newydd am hawlen os na fydd yr ymgeisydd wedi talu’r taliadau cosb parcio, hyd nes bod y taliadau hynny'n cael eu gwneud i'r Cwmni Parcio Ceir.
18. Nid yw Prifysgol Abertawe a'i gweision a'i hasiantau'n derbyn atebolrwydd am golled neu ddifrod i gerbydau modur a/neu eu cynnwys, nac am anaf, colled neu niwed personol i yrrwr a/neu deithwyr mewn cerbydau o'r fath neu o'u cwmpas ar diroedd y Brifysgol oni ellir profi bod hyn o ganlyniad i esgeulustod, gweithred fwriadol neu fethiant i weithredu gan y Brifysgol, ei gweision neu ei hasiantau.
19. Os bydd deiliad hawlen yn newid ei gerbyd, rhaid diwygio manylion y cerbyd. Gallwch edrych ar eich hawlen ar-lein i gael cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn neu cysylltwch ag estates-carparking@abertawe.ac.uk am ragor o fanylion.
20. Nid oes angen Hawlenni Parcio i barcio beiciau modur ar y campws ond NI CHANIATEIR iddynt barcio mewn man parcio a ddynodir i geir. Mae lleoliadau niferus ar Gampws y Bae a Champws Singleton lle gellir parcio beiciau modur.
21. Codir tâl gweinyddol o £5.00 os bydd angen darparu hawlen newydd yn lle un a gollwyd neu a ddifrodwyd.
22. Bydd methiant i gydymffurfio ag arwyddion ffyrdd parhaol neu dros dro, neu â chyfarwyddiadau traffig gan y staff Diogelwch, yn cael ei gyfeirio at sylw Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau a gellir diddymu'r hawlen. Mae hyn yn berthnasol hefyd lle bydd safon y gyrru ymhell islaw'r safon a ddisgwylir gan yrrwr cymwys a gofalus, gan gynnwys goryrru neu yrru'n ddiofal/yn beryglus mewn mannau i gerddwyr ar Gampws Singleton a Champws y Bae.
23. Ni ddylid llungopïo na dyblygu hawlenni mewn unrhyw ffordd. Os deuir o hyd i dystiolaeth sy'n awgrymu bod hyn wedi digwydd, caiff y mater ei gyfeirio at sylw'r Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Campws a gallai'r hawlen gael ei diddymu.
24. SYLWER: Ni chaiff Hawlenni Parcio eu darparu ond i ymgeiswyr sy'n derbyn yr amodau hyn.