Mae Prifysgol Abertawe'n gweithredu Cynllun Rheoli Parcio a weinyddir gan Total Parking Solutions er mwyn rheoli mynediad i gerbydau heb awdurdod a pharcio amhriodol. Mae system reoli o'r fath yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y campws yn gweithredu mewn modd diogel ac effeithlon. Mae hefyd yn helpu i'w gwneud yn haws i ddeiliaid hawlen gael mynediad i'r campws a dod o hyd i le parcio.
Rhoddir hysbysiad o dâl am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau parcio a'r amodau darparu fel a ganlyn:
- Cerbyd heb ei barcio mewn lle parcio a farciwyd, neu heb barcio o fewn y llinellau
- Parcio mewn lle rhannu car heb yr hawlen briodol neu heb gydymffurfio â'r amodau defnyddio. Dynodir lle parcio â rhif penodol i bob grŵp rhannu car. Mae'n RHAID i gerbydau yn y cynllun rhannu car ddefnyddio'r lle â rhif sydd wedi'i ddynodi iddynt yn unig. Os yw'r lle yn wag ar ôl 10am o ddydd Llun i ddydd Gwener, bydd ar gael i ddeiliaid hawlenni eraill ei ddefnyddio.
- Os gwelir mwy nag un cerbyd sydd wedi'i gofrestru i grŵp neu hawlen rhannu car yn unrhyw un o feysydd parcio'r Brifysgol
- Hawlen wedi'i harddangos mewn cerbyd nad yw wedi'i gofrestru i ddeiliad yr hawlen
- Nid yw’r hawlen yn ddilys ar gyfer y diwrnod / amser y mae'r cerbyd wedi parcio p'un a yw wedi talu ai peidio
- Peidio ag arddangos hawlen ddilys, neu beidio â thalu i barcio
- Cerbyd wedi'i barcio am gyfnod hwy na'r amser a ganiateir mewn lle parcio arhosiad byr neu le parcio llwytho yn unig
- Hysbysiad Dros Dro wedi dod i ben
- Parcio mewn mannau lle na chaniateir parcio, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Heolydd â llinellau melyn
- Ardaloedd wedi'u marcio â llinellau croes
- Lleoedd parcio neilltuedig (dros dro neu barhaol)
- Ardaloedd dim parcio
- Lleoedd parcio i'r anabl (oni bai fod bathodyn glas dilys wedi'i arddangos)
- Lawntiau, lleiniau gwyrdd neu ardaloedd wedi'u tirweddu
- Palmentydd neu lwybrau cerdded
- Maes Parcio Ymwelwyr (rhif 1.) ar Gampws Singleton, maes parcio ymwelwyr a maes parcio'r SoDdGA ar Gampws y Bae.
- Unrhyw ardal arall lle gallai parcio achosi perygl, rhwystr neu niwsans i eraill
Bydd unrhyw berchennog/yrrwr nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau a'r amodau defnyddio yn derbyn hysbysiad o dâl cosb hyd at £60 (wedi'i leihau i £30 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod).
Os na chaiff y cerbyd ei symud o fewn 24 awr ar ôl derbyn yr hysbysiad o dâl, gellir rhoi hysbysiad arall ac un ychwanegol am bob cyfnod 24 awr ar ôl hynny. Os caiff cerbyd ei adael am fwy na 7 niwrnod, rhoddir hysbysiad arno y caiff y cerbyd ei symud ar ôl 7 niwrnod. Ar ôl y cyfnod hwnnw, symudir y cerbyd ar gost y perchennog.
Gall y DVLA ddarparu enw a chyfeiriad ceidwad cofrestredig y cerbyd i Total Parking Solutions.
Cyfarwyddiadau Talu
Rhaid derbyn taliad am yr Hysbysiad o Dâl Parcio hwn o fewn 28 niwrnod i'w ddarparu.
Ni dderbynnir y swm llai oni dderbynnir y taliad o fewn 14 diwrnod ar ôl dyddiad darparu'r hysbysiad.
Talu ar-lein
Mewngofnodwch yn www.tpstickets.co.uk. Gellir talu â cherdyn debyd/credyd.
Llinell Taliadau/Ymholiadau 24 awr
Ffoniwch 0845 257 3120. Gellir talu â cherdyn debyd/credyd.
Apeliadau
Rhaid cyflwyno gwrthwynebiad i'r Hysbysiad o Dâl Parcio o fewn 28 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad o Dâl Parcio. Dylid cyflwyno apêl yn uniongyrchol i Total Parking Solutions. Y cwmni hwnnw fydd yn ymateb i'r apêl, gan ymgynghori â Chyfarwyddiaeth Ystadau a Rheoli Cyfleusterau'r Brifysgol os bydd angen.
I apelio yn erbyn eich Hysbysiad o Dâl Parcio, ewch i www.tpstickets.co.uk/appeals neu pcn@totalparking.co.uk. Fel arall, gallwch ysgrifennu i'r cyfeiriad canlynol:
Total Parking Solutions Ltd
Parking Enforcement Department
Blwch S.P. 7135
Kettering
NN16 6BP
Gellir talu â siec neu archeb bost i'r cyfeiriad uchod. Sicrhewch eich bod yn ysgrifennu rhif y tocyn a'ch cyfeiriad ar gefn y siec neu'r archeb bost. Peidiwch â cheisio talu staff Ystadau a Chyfleusterau, gan nad ydynt wedi'u hawdurdodi i dderbyn taliadau.