AUGUST DICHTER - DEILIAD YSGOLORIAETH HERIAU BYD-EANG
Ganwyd August Dichter yn nghrud Democratiaeth America, sef Philadelphia, a chafodd ei fagu gan rieni a oedd yn addysgwyr a gredai yng ngwerth defnyddio addysg a chelf i newid y byd. Taniwyd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth drwy ddysgu a chwerthin wrth wylio rhaglenni newyddion dychanol ar ddechrau'r degawd 2000. Rhoddodd comedi gyfle iddo ddysgu am bynciau gwleidyddol cymhleth megis diwygio cyllid ymgyrchu a gerimandro. Yn ei astudiaethau israddedig, newidiodd ei ffocws i ddeall gallu'r cyfryngau i feirniadu a chreu naratifau strategol. Drwy gydol ei astudiaethau, mae August wedi parhau i fod yn angerddol am ryddid y cyfryngau a llythrennedd am y cyfryngau.
CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFA
Yn 2019, graddiodd August o Goleg Eckerd, gan ennill Gwobr Murphy-Rackow i gydnabod perfformiad neilltuol mewn Gwyddor Wleidyddol. Yn ei draethawd estynedig israddedig, canolbwyntiodd ar y ffyrdd y gall ecosystem fodern y cyfryngau elwa o newyddion dychanol. Cafodd ei ganfyddiadau sylw ar raglen radio On Point NPR a'u cyflwyno yng nghynhadledd y National Political Science Honor Society yn Washington DC.
Y tu allan i'r ystafell ddosbarth, mae August wedi archwilio sut mae sianelau'r cyfryngau'n cyfleu negeseuon gwleidyddol. Mae'r profiadau hyn yn cynnwys creu papur newydd dychanol, interniaeth ar y rhaglen deledu gyda'r hwyr, Full Frontal with Samantha Bee, a gweithio fel cynorthwy-ydd ysgrifennwr yn Crooked Media, cwmni podlediadau a reolir gan aelodau tîm cyfathrebu’r cyn Arlywydd Barack Obama.
MEYSYDD ARBENIGEDD
Yn ystod ei leoliad gwaith ar gyfer y rhaglen hon, bydd August yn ymchwilio i gylch bywyd Deddf y Gwasanaethau Digidol, y ddeddfwriaeth sydd â'r nod o ddemocrateiddio'r rhyngrwyd ymhellach yn yr UE. Bydd hefyd yn ymchwilio i sut gall polisi cyhoeddus rwystro ymgyrchoedd twyllwybodaeth.
Gan fod twyllwybodaeth yn bygwth tanseilio sefydliadau democrataidd ledled y byd, mae August yn gwybod y bydd y rhaglen Heriau Byd-eang yn rhoi iddo'r fframwaith a'r mewnwelediad i arweinyddiaeth a pholisi byd-eang i ateb rhai o'i gwestiynau mwyaf. Mae meysydd arbenigedd August yn cynnwys newyddion dychanol a chynhyrchu yn y cyfryngau.
UCHELGEISIAU A GOBEITHION AM Y DYFODOL
"Fy ngobaith am y dyfodol yw y gallaf ddylanwadu ar bolisi a chreu cynnwys addysgol ar gyfer darlledu cyhoeddus a fydd yn defnyddio hiwmor i wrthsefyll camwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Mae rhai o'r pethau eraill hoffwn i eu gwneud ar y daith yn cynnwys: creu cwricwlwm addysg cenedlaethol a fydd yn cyflwyno darlun mwy cywir o wirioneddau tywyll hanes yr UD fel y gallwn baratoi'n well am yr heriau sydd o'n blaenau, ysgrifennu ar gyfer y Weekend Update ar SNL a meddwl am ffyrdd o gyfrannu at y frwydr am ryddid y cyfryngau ledled y byd."