SARA PAN ALGARRA - DEILIAD YSGOLORIAETH HERIAU BYD-EANG
Bydd Sara astudio am PhD mewn Addysg Ryngwladol a Chymharol ym Mhrifysgol Columbia ym mis Medi 2022 fel Cymrawd Doethurol.
Yn ddiweddar, cwblhaodd Sara yr MA mewn Heriau Byd-eang: Cyfraith, Polisi, ac Ymarfer yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe gan ennill y rhagoriaeth uchaf. Gwnaeth ei thraethawd ymchwil ystyried effaith dadleoliad a mudo sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ar fynediad merched at addysg yn Guatemala a Honduras. Yn fwyaf diweddar, dilynodd y maes ymchwil hwn gyda UNICEF UK ac mae wedi bod yn gweithio fel rhan o Dîm Cyfreithiol Child Rights Connect yn y Swistir. Child Rights Connect yw'r rhwydwaith mwyaf o sefydliadau anllywodraethol sy'n ymroddedig i hawliau plant.
Graddiodd Sara Summa Cum Laude o Brifysgol Efrog Newydd (campws Abu Dhabi) â gradd BA gydanrhydedd mewn Ymchwil Gymdeithasol a Pholisi Cyhoeddus, a Theatr, ac arbenigedd mewn Gwyddor Wleidyddol.
Mae ganddi brofiadau proffesiynol cysylltiedig yn y Swistir, Ecwador, Venezuela, Canada, India, yr Eidal, yr Unol Daleithiau, yr Emiradau Arabaidd Unedig, a'r Deyrnas Unedig.
Cafodd ei hethol yn Faer Ieuenctid ym Mwrdeistref Chacoa Venezuela lle bu'n gweithio ym maes llywodraethu ieuenctid lleol rhwng 2010 a 2014. Hefyd, astudiodd yng Ngholeg United World India a dyfarnwyd cymrodoriaeth y Dalai Lama iddi gan Brifysgol Virginia.