ADDYSGEG

A student wearing VR glasses.

Yn ôl ymagwedd y Tîm TEL Dev, mae dysgwyr wrth wraidd y broses addysgol. Dylai pob amgylchedd dysgu a dull cymorth ac arweiniad myfyrwyr ddechrau ag addysgeg sy'n canolbwyntio ar y dysgwr. Dylai dylunio'r cwricwlwm adlewyrchu profiad y myfyrwyr fel defnyddwyr. Dim ond pan fydd cydbwysedd priodol rhwng addysgeg, gofod, a thechnoleg y gall addysgu effeithiol ddigwydd. Pan gaiff ei defnyddio heb ofal, gall technoleg weithiau dynnu oddi ar y profiad dysgu ac addysgu.  Fodd bynnag, pan gaiff ei defnyddio'n ofalus i gefnogi addysgeg, gall technoleg wella dysgu ac addysgu. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd cwmpas ac arddull addysgeg yn newid wrth i dechnoleg newid, er enghraifft o ran arddulliau addysgegol cyfoes fel dysgu hybrid a hyblyg ('hyflex'). 

MAE RHAI O'R DULLIAU ADDYSGEGOL Y GALL Y TÎM TEL HELPU CYDWEITHWYR GYDA NHW YN CYNNWYS: