Prifysgol gwyddorau iechyd yw Coleg Meddygaeth Baylor a sefydlwyd ym 1900 ac mae ei chartref yng Nghanolfan Feddygol Tecsas yn Houston.
Mae'n cael ei hystyried yn un o ysgolion meddygol gorau America ac mae ganddi 26 adran, dros 90 o ganolfannau ymchwil a gofal cleifion ac mae'n cyflogi 4,500 o staff academaidd.
Gwnaeth Coleg Meddygaeth Baylor gyfraniad allweddol at gwblhau Prosiect y Genom Dynol (y nod oedd dilyniannu ac anodi'r 3.3 biliwn o fasau yr amcangyfrifir eu bod yn ffurfio'r genom dynol). Mae ei hymchwilwyr sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang wedi bod yn gyfrifol am ddatblygiadau meddygol arloesol di-rif sydd wedi helpu i drawsnewid y ffordd rydym yn canfod ac yn trin cyflyrau megis canser, polio a methiant y galon.