Traddodwyd darlith flynyddol Richard Burton gan yr hanesydd a'r bywgraffydd, yr Athro Angela V. John, yn Ysgol Isaf Dyffryn, Port Talbot (11 Tachwedd 2015). Gan nodi 90 o flynyddoedd ers geni Richard Burton, bu'r ddarlith yn pwysleisio rôl hollbwysig athrawon wrth feithrin dawn actorion ifanc addawol o'r dref.
Canolbwyntiodd yr Athro John ar Richard Jenkins (Burton) a'i gyfoedion ac ar Anthony Hopkins. Dangosodd sut helpodd ychydig o unigolion â gweledigaeth ac angerdd am ddrama, mewn ysgolion a chanolfannau ieuenctid, i drawsnewid bywydau a chyfleoedd y bobl ifanc hyn, gan osod sylfaen i'r dref ddod yn adnabyddus am sêr yn ogystal â dur.
Teitl y ddarlith oedd ‘Educating Richard: Actors and Educators in Port Talbot, 1925-55’ ac, yn ddigon priodol, cyn y ddarlith cafwyd perfformiad gan ddisgyblion o Ysgol Dyffryn o olygfeydd o "A Midsummer Night's Dream"
Dyfynnodd yr Athro John o’i llyfr "The Actors’ Crucible. Port Talbot and the Making of Burton, Hopkins, Sheen and All the Others" (Parthian, Tachwedd 2015).
Meddai'r Athro Angela John, "John Gielgud said that Burton came from nowhere. He didn’t come from nowhere. He came from an extremely rich cultural background in Port Talbot – the town of stars and steel, and the actors’ capital of Wales.
Burton grew up in a world of chapels, opera, eisteddfods, in a town with a vibrant amateur dramatic tradition. He encountered devoted teachers like Philip Burton, with his links to the BBC, and writers and producers like Leo Lloyd and Cyril Jenkins, a railwayman by profession, who in his spare time ran the YMCA theatre company and adapted short stories from Tolstoy.
These were the inspirers behind the stars. It is not simply a case of the isolated genius."
Meddai'r Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton er Astudio Cymru, "Rydym ni yng Nghanolfan Richard Burton, wrth ein boddau’n croesawu’r hanesydd nodedig, Angela V. John, i draddodi darlith 2015. Mae ei chyfraniad at ehangu meysydd astudiaethau hanesyddol a diwylliannol Cymru'n cael ei gydnabod yn eang.
Ar ôl arloesi ym meysydd hanes ffeministaidd ac ysgrifennu bywgraffyddol, yma mae'n dychwelyd at fro ei mebyd, gan archwilio'r matrics diwylliannol cyfoethog a feithrinodd ddoniau Richard Burton, Anthony Hopkins, Michael Sheen a llawer eraill.
Yr Athro John yw'r dewis perffaith i draddodi darlith flynyddol 2015, ac roedd y pwnc a'r lleoliad yn hynod briodol gan gofio bod Richard Burton wedi cael ei addysg yn Ysgol Dyffryn."
Ar ôl iddi raddio â doethuriaeth o Fanceinion, bu'r Athro John yn darlithio am bron 30 o flynyddoedd, yng Nghaint ac wedyn yn Llundain. Roedd ei llyfr cyntaf, By The Sweat of Their Brow, yn astudiaeth arloesol o gyflogaeth menywod ym mhyllau glo Prydain. Ysgrifennodd lyfr arobryn ar gyfer ysgolion hefyd, sef Coalmining Women.