Creu Taliesin
Mae Creu Taliesin yn ardal ddeinamig a chynhwysol a ddyluniwyd i fod mor hyblyg â phosib ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe.
Mae Creu Taliesin, ar lawr gwaelod adeilad Taliesin, yn bodoli i hyrwyddo celf, diwylliant, creadigrwydd ac arloesi. Mae Creu Taliesin yn cynnwys dwy ardal y mae modd archebu lle ynddynt, Ystafell y Mall a'r Stiwdio.
Mae Creu Taliesin hefyd yn cynnwys parth ar gyfer astudio cyffredinol, ardal er mwyn i fyfyrwyr a staff gymdeithasu ac ymlacio, taflunwyr hawdd eu defnyddio, ardal werdd ar gyfer ffilmio, ac ardaloedd ar gyfer arddangosiadau ac arddangosfeydd dros dro.
Mae Creu Taliesin yn cynnal dros 60 o ddigwyddiadau myfyrwyr a staff bob mis, sy'n golygu ei bod yn esblygu'n barhaus i weddu pawb sy'n ei defnyddio. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cefnogi digwyddiadau mor amrywiol â gweithdy gwneud barcutiaid ar gyfer Pages of the Sea Danny Boyle; gweithdy pypedau gyda Smoking Apples Theatre; rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer dathliadau Frankenstein yn 200 oed; a Sesiynau Holi ac Ateb gydag awduron rhestr fer Gwobr Dylan Thomas 2018.
Rydym hefyd wedi cynnal arddangosiad ffotograffiaeth Ymchwil fel Celf 2018, dangosiadau ffilmiau byr ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru, Marchnadoedd Gwneuthurwyr rheolaidd, a dosbarthiadau dawns wythnosol yn cynnwys Dawnsio Bol Arddull Llwythol Americanaidd a Dawnsio Tango'r Ariannin.