Noson yng nghwmni cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm a theledu Cymreig arobryn, Euros Lyn.
Nos Iau 14 Mawrth 2024, 19:00-20:00 (Derbyniad o 18:30)
Y Nueadd Fawr, Campws y Bae, Prifysgol Abertawe, Abertawe SA1 8EN
Ganwyd Euros Lyn yng Nghaerdydd a chafodd ei fagu yng Ngwynedd ac yn Abertawe. Dechreuodd ei yrfa yn cyfarwyddo Pam Fi Duw a Belonging ac ef oedd cyfarwyddwr sawl pennod o Dr Who a Torchwood, gan gynnwys y bennod a enillodd wobr Hugo, The Girl in the Fireplace. Mae ei waith yn cynnwys Sherlock, Broadchurch, Black Mirror, Happy Valley, Dream Horse ac Heartstopper, sydd wedi ennill llu o wobrau BAFTA ac Emmy rhyngddynt. Yn 2015, enillodd Wobr Siân Phillips BAFTA Cymru am ei gyfraniad arbennig at fyd ffilm a theledu. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ffilm dywyll a digrif am sugnwyr gwaed, sy'n seiliedig ar y nofel The Radleys gan Matt Haig, a fydd ar y sgrîn fawr yn 2024. Mae Euros yn gymrawd anrhydeddus o Brifysgol Abertawe.