Ymchwil, Addysg a Thrin Gamblo
Diben Rhwydwaith GREAT Cymru, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, yw ysgogi ymchwil i bob math o niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymhlith unigolion, teuluoedd a chymunedau, gan annog addysg amdano a dulliau i'w drin.
Mae gamblo yn weithgaredd hamdden sy'n gynyddol boblogaidd, ond ar gyfer carfan sylweddol a chynyddol o'r boblogaeth, gall droi'n ddibyniaeth ac arwain at ffurfiau amrywiol ar niwed cysylltiedig.
Fel rhwydwaith o ymchwilwyr, darparwyr gwasanaeth, pobl â phrofiad go iawn a llunwyr polisi, mae GREAT yn cynnig triniaeth ar sail tystiolaeth a gwasanaethau addysgol ac ymgynghori ar gyfer yr holl sectorau, mae'n cynhyrchu ymchwil ddiduedd o safon a adolygir gan gymheiriaid, ac yn gweithredu fel cronfa wybodaeth ar gyfer tystiolaeth sydd wedi'i seilio ar ymchwil wyddonol a pholisïau am gamblo a'i niwed cysylltiedig.