Wythnos Groeso yn Abertawe
- Clybiau a Chymdeithasau
- Canvas
- Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
- Mis Hanes LHDT+ 2024
- Mis Balchder Prifysgol Abertawe 2024
- Diwrnod Rhyngwladol y Dynion
- Cyfleusterau'r Campysau
- Adolygiadau Gan Fyfyrwyr
- Y 5 lle gorau yn Abertawe i’w cynnwys ar Instagram
- Iechyd a Lles
- Arlwyo i Fyfyrwyr
- Discovery
- Bywyd Cymdeithasol a Digwyddiadau Myfyrwyr
- Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
- Parth Addysg
- Sgwrsio gyda'n Myfyrwyr
Wythnos Groeso
Siarad Abertawe?
Croeso i Brifysgol Abertawe! O'r eiliad rydych yn cyrraedd, byddwch yn teimlo'n gartrefol.
Nid dinas a phrifysgol yn unig yw Abertawe, mae'n ffordd o fyw. Rydym yn sôn am y bobl, y lleoedd, y bwyd, y profiadau a'r atgofion...Rydym am eich tywys ar daith rithwir unigryw o'r ddinas a'r brifysgol. O Varsity i Verdi’s, Stryd y Gwynt i Fae Abertawe, mae gan Abertawe'r cyfan... gadewch i ni ddangos i chi beth yw bywyd go iawn yma.
Sgroliwch i lawr i archwilio ein heiconau a chlywed gan ein myfyrwyr o bedwar ban byd wrth iddynt ddisgrifio'r hyn sy'n gwneud Abertawe mor arbennig. Gallwch ddarganfod profiadau newydd ac ymdrochi yn 'Anian Abertawe' gan ailymweld â golygfeydd a synau cyfarwydd.
A chofiwch ein bod am glywed gennych chi hefyd! Rhannwch eich eiconau chi o Abertawe – boed yn hoff le, yn stori neu'n ddiddordeb – drwy ddefnyddio #siaradabertawe ar y cyfryngau cymdeithasol.
Joe's Neu Verdi's
hufen iâ amdani!
Beth yw glan môr heb hufen iâ?
Dim ond dau o'r sefydliadau niferus yn Abertawe lle cewch chi hufen iâ bythgofiadwy yw parlyrau eiconig Joe's a Verdi's!
Boed yn ddiwrnod heulog yn yr haf neu'n ddiwrnod lle mae'r tymereddau'n is na'r rhewbwynt, byddwch chi’n siŵr o weld llu o bobl yn aros y tu allan i'r mannau chwedlonol hyn.
Gan fod Joe's a Verdi's yn enwog ymhlith preswylwyr Abertawe, beth fydd eich dewis chi? O fanila clasurol Joe's neu’r dewis diddiwedd o flasau yn Verdi's.
Does dim ots pa flas sy'n mynd â’ch bryd chi, mae dewisiadau di-rif yn Abertawe o ran hufen iâ sy’n tynnu dŵr o’r dannedd!
Pam oedi felly? Rhowch gynnig ar eich dewis chi heddiw!
Eich bwyd
sy'n mynd â'i bryd
Efallai eich bod chi wedi clywed am ein lleoliad glan môr gwych, ond mae rhywbeth i’w gofio bob amser – GWYLIWCH RHAG Y GWYLANOD
Er na fyddai Abertawe'r un peth heb ei gwylanod, bydd yr anifeiliaid bachog hyn yn manteisio ar unrhyw ffynhonnell gyfleus o fwyd sydd ar gael iddyn nhw. Felly, er mwyn eich diogelu chi a’ch bwyd o Greggs, dyma ganllaw goroesi ymosodiadau gan wylanod!
Llety
Sy'n Llonni
Os ydych chi’n ymweld â thraeth Langland, mae'n amhosib peidio â sylwi ar y cabanau ymyl traeth sydd wedi'u paentio'n llachar ar hyd y bae.
Gyda bron 80 o'r cabanau gwyrdd a gwyn eiconig (y gred yw i’r un cyntaf gael ei adeiladu ym 1923!), byddwch chi’n siŵr o weld lluniau o’r rhain o gwmpas y ddinas
Efallai eich bod chi wedi clywed y disgrifiad bod Abertawe'n un o'r rhanbarthau gorau yn y DU ar gyfer syrffio, beicio, chwaraeon dŵr, dringo creigiau a chwarae golff, felly os ydych chi’n frwd dros chwaraeon antur, mae'n berffaith i chi! Ac os ydych chi’n teimlo'n llai mentrus, beth am fynd am dro ar hyd llwybr yr arfordir neu'r traeth?
Mae'r ardal hon yn cynnig mwy na 50 o draethau a baeau, ond heb os nac oni bai, rhaid i chi ymweld â thraeth Bae Langland. Gyda Baner Las a Gwobrau Glân Môr, a chysylltiadau drwy lwybr yr arfordir â Bae Caswell, Rotherslade, Limeslade, a Bae Bracelet, dyma'r diwrnod perffaith allan!
Ymunwch ag Undeb y Myfyrwyr ar eu taith i benrhyn Gŵyr! ArchwiliwchY Ffasiwn
Ym Mharis • Milan • Efrog Newydd • Uplands
Os ydych chi wedi dod i un o'n Diwrnodau Agored neu un o'n digwyddiadau, efallai y byddwch chi eisoes wedi sylwi ar yr hetiau broga, sy'n boblogaidd ymhlith myfyrwyr a staff!
Mae'r het froga syml hon wir yn amlbwrbas:
- Ydych chi’n ceisio dynwared broga? ✓
- Oes angen het arnoch chi oherwydd ei bod hi'n bwrw glaw? ✓
- Oes angen het arnoch chi oherwydd ei bod hi'n heulog? ✓
- Hoffech chi edrych yn ffasiynol? ✓
Felly, efallai y byddwch chi’n gofyn, beth yw arwyddocâd yr het froga?
Yn yr un modd ag Abertawe, mae'n gwneud i chi edrych ddwywaith, ac ar ôl i'r person sy'n ei gwisgo gael eich sylw, rhaid i chi wenu a chofio amdani. Mae hefyd yn cyd-fynd yn berffaith â dillad ein myfyrwyr llysgennad!
A beth am y rhai sydd am gael gafael ar un o'r hetiau hyn? Gall niferoedd cyfyngedig fod ar gael i fyfyrwyr llysgennad sy'n gweithio yn ystod Diwrnodau Agored yn y dyfodol!
Dewch yn Fyfyrwyr LlysgennadDewch i gefnogi'r
Elyrch!
Rydym ni'n falch o rannu ein dinas â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, sef yr Elyrch enwog.
Ar ôl bodoli am fwy na 100 mlynedd, mae'r clwb yn rhan hanfodol o hanes a diwylliant dinas Abertawe. Yn wir, mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe'n berchen ar 20% o'r clwb ac mae ganddi gynrychiolydd ar fwrdd y clwb.
Felly, er bod yr Elyrch yn meddiannu'r stadiwm rhwng mis Awst a mis Mai, cadwch lygad am rai ymwelwyr enwog eraill. Mae'r stadiwm wedi cynnal nifer o berfformiadau gan sêr fel Elton John, Kings of Leon a Little Mix!
Hoffech chi fod yn rhan o Fyddin y Jacs? Ewch i weld yr Elyrch yn chwarae yn stadiwm drawiadol Swansea.com
Pwy ydym ni? Byddin y Jacs!
Clwb Pêl-droed AbertaweMwy o farddoniaeth
Plîs
Dinas Abertawe, sy'n adnabyddus am fod yn gartref i Dylan Thomas. O'r tafarndai i'r parciau, mae etifeddiaeth y bardd enwog, Dylan Thomas, i'w gweld ledled y ddinas.
Mae Dylan Thomas yn enwog am waith a oedd yn cynnwys “Do not go gentle into that good night”, “And death shall have no dominion” ac “Under Milk Wood” - a gafodd ei gyfieithu i’r Gymraeg gan T. James Jones sef Dan y Wenallt. Ganwyd y bardd uchel ei fri yn 1914 yn Abertawe, lle dechreuodd ei yrfa cyn symud i Lundain ym 1933.
Er bod Abertawe yn gartref i Dylan Thomas, mae’n bwysig cofio am ein beirdd a llenorion Cymraeg sydd â chysylltiadau â’r ddinas a Phrifysgol Abertawe. I enwi dim ond rhai, Grug Muse sef enillydd Llyfr y Flwyddyn 2022 (categori barddoniaeth), y Prifardd Tudur Hallam sy’n Athro yn yr Adran Gymraeg, Kate Bosse-Griffiths yr Eifftolegydd ac awdures, ac wrth gwrs, Saunders Lewis y dramodydd ac ysgolhaig adnabyddus.
Ymwelwch â Chanolfan Dylan Thomas i ddysgu rhagor amdanoO fan hyn
mae'r byd yn eiddo i chi
Ydych chi’n chwilio am olygfa sy'n deilwng o Instagram? Does dim angen edrych ymhellach na Mynydd Cilfái! Os ydych chi’n cerdded 193 metr i'r copa, ar ochr ddwyreiniol Abertawe (yn agos at Gampws y Bae), byddwch chi’n gweld golygfeydd 360 gradd panoramig ledled y ddinas.
Mae’n lle delfrydol i ymgolli ym myd natur a chadw golwg am adar, gan gynnwys ehedyddion, troellwyr, llinosiaid, hebogau, esgyll cochion, y fronfraith, cesig, cigfrain a llwydfronnau. Gwelwyd ambell bili-pala glas bach prin yn y lleoliad hefyd.
Ac os ydych chi am aros yn Abertawe, mae rhywbeth gwych ar ddod! Mae prosiect uchelgeisiol yn yr arfaeth sy'n cynnwys adeiladu parc antur awyr agored, gan gynnwys llinellau sip, siglen awyr, ceir llusg a system raffbont, yn ogystal â llwyfan gwylio panoramig. Mae Skyline Enterprises o Seland Newydd wedi cyhoeddi bwriad i agor yn 2025 – felly, cadwch lygad am hynny!
Yn y cyfamser, clymwch lasys eich esgidiau rhedeg, byddwn ni’n eich rasio i'r copa!
Tywod
Rhwng ein traed
Mae'n anodd disgrifio bywyd yn Abertawe, ond mae ein myfyrwyr yn dweud ei fod yn teimlo fel cartref, ac ar ôl i chi gyrraedd, fyddwch chi ddim eisiau gadael!
O bicnics i farbeciws a pizza ar y traeth – dyma rai yn unig o hoff weithgareddau ein myfyrwyr!
“Pan dwi'n meddwl am Abertawe, dwi'n meddwl am y traeth. Dwi'n meddwl am gerdded draw o Gampws Singleton, gosod barbeciw bach a chymdeithasu â ffrindiau yn y tywod. Mae gan Abertawe rai o'r llanwau mwyaf eithafol ac mae'n ddifyr iawn eu gwylio'n mynd ac yn dod.” Maya Dotson.
Dawnsiwch
Boed law neu hindda
Boed law neu hindda, mae rhywbeth at ddant pawb yma yn Abertawe, lle cewch chi’r cydbwysedd perffaith rhwng dinas a chefn gwlad! Ac mae'n wir ei bod hi'n amhosib anwybyddu'r amgylchedd cynhwysol cyfeillgar y mae'r preswylwyr yn adnabyddus amdano pan fyddwch chi yn Abertawe.
Nid yw Prifysgol Abertawe'n wahanol, lle mae Academi Cynwysoldeb ar gael!
Mae'r tîm ymroddedig hwn yn gweithio i roi cymorth academaidd a bugeiliol cynhwysol i'n poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr, gan gynnwys gwasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer anabledd, lles, llesiant, ffydd, arian, llety ac astudio academaidd.
Yn ogystal â'n gwasanaethau cymorth gwych, mae mwy na 150 o gymdeithasau a 50 o glybiau chwaraeon lle gallwch chi gwrdd â phobl o'r un meddylfryd â chi a gwneud ffrindiau newydd. O'r celfyddydau gweledol i chwarae pocer, o gwrw iawn i ganu emynau, o’r GymGym (y Gymdeithas Gymraeg) i Aelwyd yr Elyrch, mae'n wir bod rhywbeth at ddant pawb, ond os na allwch chi ganfod y grŵp perffaith i chi, bydd Undeb y Myfyrwyr yn eich helpu i ddechrau un newydd!
Sut allwch chi gymryd rhan?Ai hon yw stryd
Enwoca' Cymru?
Dyma'r stryd enwocaf yn Abertawe, yn ôl pob tebyg ... Mae Stryd y Gwynt yn ardal gaffis yn ystod y dydd ac yn baradwys parti gyda'r hwyr, lle ceir 20 o fariau a bwytai ar heol 160 metr o hyd.
Er ei bod hi’n bwysig cael hwyl, mae’n hanfodol sicrhau bod nosweithiau allan yn brofiad diogel a chadarnhaol.
Drwy gydol Wythnos y Glas, rhoddodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ‘Gynllun Diogelwch ar Noson Allan’ ar waith. Mae'r cynllun hwn yn gweithio gyda’n cymdeithasau a’n timau chwaraeon i gynnig presenoldeb o gwmpas ein clybiau drwy gydol y noson, gan roi cyfeiriadau a chymorth, a sicrhau bod ein myfyrwyr yn cyrraedd adref yn ddiogel.
Gan weithio'n agos gyda’r heddlu a gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan, mae'r hwn yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel wrth fwynhau cwrdd â ffrindiau newydd a chreu atgofion.
Hefyd, mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu bysiau gwennol drwy gydol y nos i sicrhau bod ffordd ddiogel a dibynadwy o ddychwelyd i’n campysau ar gael i bawb ar ôl noson allan.
Rhagor o awgrymiadau a chyngor ynghylch nosweithiau allanTonnau
Diderfyn
Wrth i chi gyrraedd Abertawe, byddwch chi’n gweld y traeth 8km ar unwaith – dyma’r traeth hwyaf yn Abertawe, Bae Abertawe.
Mae gan Fae Abertawe’r amrediad llanw uchaf ond un yn y byd (10.4m) – ac mae cynlluniau i greu gorsaf ynni morlyn llanw gyntaf y byd yma!
Mae modd cyrraedd y traeth o'n dau gampws, felly mae Bae Abertawe'n gyrchfan reolaidd i'n myfyrwyr, sy'n dweud bod digon o hwyl ar gael ym mhob tymor.
Neidiwch i mewn i roi cynnig ar nofio dŵr agored, dysgu chwaraeon dŵr newydd neu ymlaciwch ar y traeth gyda’ch ffrindiau!
Helpwch ni i ofalu am ein hamgylchedd drwy gymryd rhan yn ein sesiynau glanhau traethau wythnosol!
Dewch o hyd i'ch chwaraeon dŵr Darganfyddwch Fae AbertaweCroeso
Nôl
Wrth groesawu pobl a ffarwelio â nhw, bydd rhai o dy eiliadau mwyaf yn yr orsaf hon!
“Un o fy atgofion craidd yw dychwelyd i Abertawe ar ôl gwyliau'r Nadolig a chael fy nghofleidio ar ruthr gan ddau o fy nghyd-breswylwyr pan ddaethon nhw i gwrdd â fi yn yr orsaf."- Kanchi Mehta
“Un o’r pethau am Abertawe rwy’n dwlu arnyn nhw yw natur gynhwysol a diogel y ddinas, ac mae’n cynnig popeth y mae angen ar rywun."- Dongkai Chen
“Y peth gorau am Abertawe yw ei phobl"- Faisat Oyetoun Oshilalu
Goleuo eich
ffordd adref
Y Mwmbwls. Yn gartrefol ond yn gosmopolitan, mae'r Mwmbwls yn llawn cymeriad a hud lleol. Mae'n gartref i grefftau o waith llaw, siopau dillad moethus ac o bosib yr hufen iâ gorau yn y byd, yn ogystal ag eiconau brodorol enwog gan gynnwys y goleudy (a adeiladwyd ym 1794!), Castell Ystumllwynarth ac, wrth gwrs, Bier y Mwmbwls.
Mae modd cyrraedd y Mwmbwls yn hawdd o'n campysau, os ydych chi am fwynhau tro hamddenol ar hyd y traeth, beicio ar hyd y promenâd, neu neidio ar fws Coaster Cymru, fyddwch chi ddim am golli cyfle i fynd ar daith i bentref y Mwmbwls!
Neu beth am feicio ar hyd y promenâd?
vOs nad oes gennych eich beic eich hun, gallwch logi un o’n cynllun Beiciau Santander. Gyda chwe chanolfan ar draws y ddinas a’r 30 munud cyntaf pob taith am ddim (i fyfyrwyr a staff), mae'r beiciau'n ffordd wych o fynd o gwmpas ac archwilio'r golygfeydd.
Copr
Yn ein gwaed
Mae Cymru'n enwog am ei golygfeydd godidog, ei hen hanes a'i hiaith hudol ac mae ei hanes a'i threftadaeth ym mhob man.
Mae Abertawe'n ymfalchïo mewn bod yn ganolfan fywiog ar gyfer celf ac mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn cael ei chydnabod yn eang fel prif leoliad arddangosfeydd celf yn y ddinas. Hefyd yng nghanol Campws Parc Singleton ceir Canolfan Celfyddydau Taliesin, sy'n gartref i gynyrchiadau rheolaidd, ffilmiau prif ffrwd ac amgen, yn ogystal â'r Ganolfan Eifftaidd arobryn, sy'n meddu ar gasgliad o fwy na 5,000 o henebion Eifftaidd.
Wyddech chi?
Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd ac orielau celf cenedlaethol Cymru, felly gallwch chi ymdrochi yn ein hanes, neu gymryd rhan yn un o'r teithiau niferus sy'n cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe!
Dysgwch fwy am ein treftadaethGwyrdd a gwyn
Am Byth
Yn ôl rhai pobl, mae Varsity Cymru mor bwysig â gêm derfynol Cwpan y Byd ...
Mae'r hyn a ddechreuodd gyda gêm rygbi rhwng prifysgolion Abertawe a Chaerdydd ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd ym 1997 wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac mae ef bellach yn un o'r digwyddiadau aml-gamp mwyaf i fyfyrwyr yn y DU. Dyma'r digwyddiad mwyaf ond un rhwng prifysgolion yn y DU, yn ail i'r cystadlaethau rhwng Rhydychen a Chaergrawnt yn unig.
Yn yr ŵyl chwaraeon hon sy'n para am wythnos fel arfer, mae myfyrwyr yn cystadlu mewn bron 50 o weithgareddau gwahanol am Darian Varsity Cymru uchel ei bri, gan gynnwys: ffrisbi eithafol, nofio, golff, cleddyfaeth, sboncen, paffio, pêl-fasged a hoci, ymysg eraill!
Diweddglo'r digwyddiad blynyddol hwn yw'r gemau rygbi blaenllaw i'r dynion a'r menywod, gan gadw hanes y digwyddiad mewn cof.
Gwyrdd a gwyn am byth
Shwmae
Yr Hen Ffrind
Mae’r iaith Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd yma ym Mhrifysgol Abertawe.
Wrth galon y Brifysgol mae Academi Hywel Teifi, sy’n cefnogi siaradwyr Cymraeg y Brifysgol. Cafodd ei sefydlu gan un o fawrion y genedl, Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Mae’r Academi yn hybu addysg ac ymchwil o’r radd flaenaf drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gartref hefyd i gangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n cynnig bwrsariaethau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio cwrs, neu ran o’u cwrs drwy’r Gymraeg, ac yn darparu cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr Cymraeg.
Agwedd arall o fywyd Cymraeg y Brifysgol yw’r gymuned glos sydd gyda ni. Mae yna ddewis o gyfleoedd gwych i chi wneud ffrindiau newydd, bod yn rhan o weithgareddau cymdeithasol fel tripiau rygbi, crôls teulu, gwirfoddoli yn y gymuned leol trwy ymuno â’n Cymdeithas Gymraeg (y GymGym) neu Aelwyd yr Elyrch. Hoffech chi fyw gyda siaradwyr Cymraeg? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n nodi’r dewis ar eich cais llety.
Beth am gymuned Gymreig y ddinas?
Tŷ Tawe yw Canolfan Cymraeg y ddinas, lle allwch chi gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau o glybiau darllen i gigs comedi, neu beth am alw mewn i’r siop am eich cardiau, llyfrau ac anrhegion Cymreig. Mae’n gartref i Fenter Iaith Abertawe sydd hefyd yn trefnu llu o ddigwyddiadau a gigs ar draws y ddinas ac yn Nhŷ Tawe.
"Gweddw Crefft
Heb ei dawn"
Ar frig y don ers 1920
Gosododd y Brenin Siôr V garreg sylfaen y Brifysgol ar 19 Gorffennaf 1920 a chofrestrodd 89 o fyfyrwyr (gan gynnwys wyth myfyrwraig) y flwyddyn honno. Erbyn mis Medi 1939, roedd 65 aelod staff a 485 o fyfyrwyr.
Ym 1947 dim ond dau adeilad parhaol oedd ar y campws: Abaty Singleton a’r llyfrgell. Roedd y Pennaeth, J S Fulton, yn cydnabod bod angen ehangu’r ystad, ac roedd ganddo weledigaeth o gymuned hunangynhaliol, gyda chyfleusterau preswyl, cymdeithasol ac academaidd, ar un safle. Ei weledigaeth oedd dod yn gampws prifysgol cyntaf y Deyrnas Unedig.
Mae'n deg dweud bod ei weledigaeth wedi cael ei gwireddu, oherwydd bod Prifysgol Abertawe’n meddu ar ddau gampws erbyn iddi ddathlu ei chanmlwyddiant ar 19 Gorffennaf 2020. Arweiniodd yr achlysur unigryw hwn yn hanes y Brifysgol at gyfle gwych i ddathlu cyflawniadau a thaith y Brifysgol dros y 100 mlynedd blaenorol.
Er mwyn dathlu pob agwedd ar fywyd campws fel rhan o'n canmlwyddiant, gwahoddon ni fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr i enwebu lleoedd ar y campws a oedd ag arwyddocâd personol sylweddol iddyn nhw.
Darganfyddwch fwyDoes Unman
Yn debyg i abertawe!
Efallai eich bod chi wedi clywed bod Abertawe'n enwog am ei helyrch. Mae'n anodd peidio â sylwi ar yr adar hyn ledled y ddinas. Ond ochr yn ochr â'i helyrch, mae anifail enwog arall yn y straeon enwog am Abertawe ...
Jac Abertawe
Adargi du a anwyd ym 1930 oedd Jac Abertawe ac roedd yn byw yn Abertawe gyda'i berchennog, William Thomas.
Byddai Jac bob amser yn ymateb i floeddiadau am help gan bobl yn y dŵr. Daeth ei orchest gyntaf ym mis Mehefin 1931, pan achubodd ef fachgen 12 mlwydd oed. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, o flaen torf, achubodd nofiwr o'r dociau. Cyhoeddwyd ei lun yn y papur lleol a dyfarnodd y cyngor lleol goler arian iddo.
Dros y blynyddoedd, enillodd Jac nifer o wobrau eraill, gan gynnwys ‘Ci Dewraf y Flwyddyn’ a chwpan arian. Ef yw'r unig gi sydd wedi ennill DWY fedal efydd (Croes Fictoria i gŵn) gan y National Canine Defence League. Yn ôl y chwedloniaeth, achubodd Jack 27 o bobl yn ystod ei oes.
Mae cofeb iddo ar y promenâd ger maes rygbi San Helen.
Darllenwch ragor o chwedlau. Mae'r cyn-fyfyriwr Mike Johnson yn disgrifio un o'i atgofion melysaf, sy'n ymwneud â phresenoldeb gwestai arbennig iawn ym mharti pen-blwydd ffrind.
Darllenwch stori MikeFaint o'r gloch yw hi,
Mistar Bae?
Yn yr un modd ag adeiladau eiconig megis Burj Khalifa, The Empire State Building and The Shard, byddwch chi’n siŵr o sylwi ar Dŵr Cloc y Bae ar Gampws y Bae.
Campws y Bae, a adeiladwyd yn 2015, yw ail gampws Prifysgol Abertawe ac ar hyn o bryd mae'n gartref i Beirianneg, yr Ysgol Reolaeth, y Ffowndri Gyfrifiadol a'r Coleg.
Beth sydd ar y campws cyfoes hwn, tybed? Gadewch i ni roi gwybod i chi:
- 2,000 o ystafelloedd llety, gan gynnwys Wi-Fi am ddim
- Llyfrgell 24/7
- Campfa
- Ardaloedd gemau dan do ac awyr agored
- Amrywiaeth o siopau a lleoliadau arlwyo
- Golchdy
- Ystafelloedd ymarfer cerddoriaeth
- Yn ogystal â mynediad uniongyrchol at y traeth! Byddai unrhyw un eisiau astudio yma!