Trosolwg
Cyn dod i Abertawe, bu Dr Ahmadain yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caergrawnt yn yr Adran Mathemateg Gymhwysol a Ffiseg Ddamcaniaethol (DAMTP) rhwng 2020 a 2023. Enillodd ei radd PhD mewn Ffiseg o Brifysgol Virginia yn 2020 lle bu'n un o fyfyrwyr yr Athro Israel Klich, gan weithio ar amrywiaeth o broblemau'n cynnwys entropi cylymau mewn cadwyni troelliad dellten. Cwblhaodd ei radd Meistr mewn Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Cincinnati yn 2014 dan oruchwyliaeth yr Athro Philip Argyres gan weithio ar ddamcaniaethau mesur N=2 ym maes cymesuredd uwch.