Trosolwg
Mae'r Athro Andrew Kemp yn Athro Seicoleg ac yn Arweinydd Ymchwil ar gyfer yr Ysgol Seicoleg. Mae Andrew yn addysgu ac yn cynnal ymchwil mewn seicoleg gadarnhaol ddirfodol, gwyddor llesiant a seicoleg hinsawdd.
Daeth Andrew i Abertawe yn 2016 o Brifysgol Sao Paulo ym Mrasil (2013-215), a chyn hyn, Prifysgol Sydney yn Awstralia. Mae ganddo BA (Anrh) mewn seicoleg o Brifysgol Melbourne (1999) a PhD mewn niwroseicoffarmacoleg o Brifysgol Technoleg Swinburne (2004). Mae ganddo hefyd radd Doethur mewn Gwyddoniaeth o Brifysgol Melbourne (2018), gan gydnabod cyfraniadau rhagorol, arloesol a chreadigol i'r maes.
Byddai Andrew yn croesawu trafodaethau gyda myfyrwyr ôl-raddedig uchelgeisiol, ymchwilwyr ôl-ddoethurol a chydweithwyr ynghylch goruchwyliaeth, mentoriaeth a chydweithio ymchwil posibl mewn meysydd diddordeb perthnasol sy’n gorgyffwrdd.