A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon.
Professor Andrew Rothwell

Yr Athro Andrew Rothwell

Athro Emeritws (Y Celfyddydau a'r Dyniaethau)
Faculty of Humanities and Social Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295967

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Mae Andrew Rothwell yn Athro Astudiaethau Ffrangeg a Chyfieithu. Ei brif ddiddordebau ymchwil yw barddoniaeth Ffrangeg yn yr 20fed a’r 21ain ganrif, gan gyfeirio’n arbennig at y celfyddydau gweledol, cyfieithu llenyddol, technolegau cyfieithu a hyfforddi cyfieithwyr. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar foderniaeth lenyddol Ffrengig, yn enwedig Dada a Swrealaeth, gan gynnwys gwaith Pierre Albert-Birot, André Breton, Blaise Cendrars, Robert Desnos, Max Jacob a Pierre Reverdy, yn ogystal â’r bardd a’r meddyliwr cyfoes Bernard Noël. Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfieithiadau Saesneg o farddoniaeth gan Noël (gan gynnwys La Chute des temps / Timefall), Jacques Dupin, Jean-Michel Maulpoix ac eraill, nofelau’r gwneuthurwr ffilmiau Bruno Dumont Humanity a Life of Jesus, a gweithiau Emile Zola, Thérése Raquin a La Joie de vivre / The Bright Side of Life (2018), y ddau gan Oxford World’s Classics. Roedd y prosiect diwethaf hwn yn arloesol o ran defnyddio meddalwedd cyfieithu proffesiynol, sydd wedi arwain at gyflwyniadau a chyhoeddiadau rhyngwladol ym maes newydd iawn Cyfieithu Llenyddol gyda Chymorth Cyfrifiadur (CALT).

Mae ganddo bron i 30 mlynedd cyfun o brofiad fel Arholwr Allanol ar gyfer rhaglenni Meistr mewn Cyfieithu yn y DU ac Iwerddon, ac mae wedi archwilio nifer o draethodau hir PhD ar bynciau cyfieithu a phynciau llenyddol. Mae wedi gweithredu fel ymgynghorydd/dilysydd allanol ar gyfer rhaglenni Cyfieithu mewn sawl prifysgol yn y DU, yn ogystal ag Universidad Autonoma de Nuevo Leon (Mecsico) a’r Brifysgol Agored Arabaidd (Gwlad yr Iorddonen). Mae’n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Llenyddiaeth Ffrengig fodern a chyfoes a chelfyddydau gweledol
  • Cyfieithu llenyddol
  • Offer a thechnolegau cyfieithu
  • Cyfieithu Llenyddol gyda Chymorth Cyfrifiadur
  • Hyfforddi cyfieithwyr

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Yn y blynyddoedd ers iddo gyrraedd Abertawe yn 1999, mae’r Athro Rothwell wedi sefydlu rhaglenni BA a MA Cyfieithu, sydd bob amser wedi bod ar flaen y gad o ran hyfforddiant mewn offer cyfrifiadurol i gyfieithwyr, ac ef hefyd a lansiodd y rhaglen PhD Cyfieithu ffyniannus hefyd. Dygodd yr MA Cyfieithu Proffesiynol i’r Rhwydwaith Meistri Cyfieithu Ewrop (EMT) mawr ei fri, a sefydlwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd i wella hyfforddiant cyfieithwyr, pan gafodd ei sefydlu yn 2009 (derbyniwyd yr MA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn 2019), ac mae wedi bod yn aelod o Fwrdd yr EMT ers 2014.