Trosolwg
Mae Dr Amy Johnson yn Ddarlithydd Gwyddor Fiofeddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Cwblhaodd Dr Johnson BSc (Anrh.) mewn Gwyddor Fiofeddygol yn 2006 a dyfarnwyd PhD iddi o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn 2011 am ymchwilio i Fodiwleiddio Niwroimiwnedd y Cloc Beunyddiol. Yna cafodd Dr Johnson nifer o swyddi ôl-ddoethurol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe gan ymchwilio i rôl niwroamddiffyn peptidau metabolaidd mewn clefydau'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag oedran. Mae ganddi ddiddordebau cryf mewn sawl maes Niwrowyddoniaeth gan gynnwys niwroddirywio, niwroamddiffyn a niwrogenesis. Darlithydd yn
Mae Dr Johnson yn darlithio ar y radd MSc Gwyddor Fiofeddygol ac yn arbenigo mewn Patholeg Gellog. Mae hi'n gymrawd y Sefydliad Gwyddor Fiofeddygol.
Mae Dr Johnson hefyd yn frwdfrydig am hyrwyddo cydweithrediadau rhwng y byd academaidd a byd diwydiant ar ôl treulio 10 mlynedd mewn diwydiant.