Dr Mary Larimi

Uwch-ddarlithydd
Chemical Engineering

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Derbyniodd Dr Larimi ei Phd mewn Peirianneg Gemegol. Mae ei gwaith ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â dwy o'r heriau mwyaf dybryd sy'n wynebu dynoliaeth: yr angen cynyddol am ynni a phryderon amgylcheddol. Mae gwaith Dr Larimi yn cyfuno dyluniad, datblygiad a nodweddu ffisiocemegol o gatalyddion heterogenaidd â dyluniad a saernïo systemau adweithydd effeithlonrwydd uchel, yn ogystal â modelu ac efelychu prosesu, i arloesi datrysiadau ynni cynaliadwy.
Mae hi wedi derbyn nifer o ddyfarniadau a chyllid. Hi yw'r gwyddonydd cyntaf sy'n ennill cymorth prosiect gan Weinyddiaeth ynni Iran i gwblhau gwaith lleihau ffotocatalytig CO2 i greu cemegion sy’n ychwanegu gwerth. Mae hi hefyd wedi ennill cymorth prosiect cenedlaethol ddwywaith gan Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol Iran i gwblhau prosiectau sy'n ymwneud â ffotocatalyddion. Cafodd ei gwaith ymchwil mewn prosesau sy'n ymwneud a'r amgylchedd hefyd ei gefnogi gan brosiect addewid hinsawdd Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig. Fel gwyddonydd arbennig, derbyniodd ddyfarniad ymchwil Sefydliad Elît Cenedlaethol Iran yn seiliedig ar ei chyfraniad at ymchwil i gatalysis ynni newydd. Mewn cydnabyddiaeth o'i chyfraniadau parhaus a llwyddiannus ym maes ynni, derbyniodd y teitl Prif Ymchwilydd gan y Weinyddiaeth Ynni yn 2022 a 2023.

Mae ei chydweithrediadau rhyngwladol yn cynnwys y DU, Tsieina, Ffrainc, Awstralia, Sbaen, Yr Almaen, ac India, gan wella ei henw da ym maes catalysis. Mae ganddi hanes cryf o gyhoeddi mewn cyfnodolion haen uchaf o safon fyd-eang. Mae ei gweithiau ymchwil wedi'u cyhoeddi a'u dyfynnu'n helaeth mewn cyfnodolion rhyngwladol o fri.

Diddordebau Ymchwil

Mae ymchwil Dr Larimi ym maes cemeg deunyddiau, gan ganolbwyntio ar synthesis deunyddiau mân-dyllog. Mae hyn yn cynnwys ocsidau metel, fframweithiau metel-organig, deunyddiau carbon, ac amrywiaeth o gyfansoddion a strwythurau sy’n ymwneud â’r rheini. Ei nod yw trin eu priodweddau ffisiogemegol i optimeiddio eu perfformiad fel catalyddion heterogenaidd, wedi'u hategu gan berthnasoedd rhwng strwythur a swyddogaeth. Nod trosfwaol ei hymchwil yw datblygu (nano)deunyddiau arloesol fel catalyddion heterogenaidd trwy ddulliau dylunio deallus, sydd â'r capasiti i fynd i’r afael â materion o bryder cyhoeddus ym meysydd ynni a'r amgylchedd.

Meysydd Arbenigedd

  • Catalysis heterogenaidd at ddibenion ynni ac amgylcheddol (nanocatalysis/ffotocatalysis/electrocatalysis)
  • Lleihau CO2
  • Cynhyrchu hydrogen
  • Hollti dŵr
  • Cynhyrchu biodiesel trwy drawsesteru
  • Dad-sylffyru tanwydd hylif

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Athro Cynorthwyol rhan-amser, 2019-2024
Prifysgol Tehran, Y Coleg Gwyddoniaeth

  • Dylunio ystadegol a dadansoddi prosesau (Lefel Raddedig)
  • Strategaethau ymchwil a dylunio arbrofol (Lefel Raddedig)
  • Egwyddorion Peirianneg gwahaniadau (Lefel Raddedig)

Athro Cynorthwyol rhan-amser, 2022
Prifysgol Shahid Chamran Ahvaz, Yr Adran Dechnegol a Pheirianneg

  • Ynni a chydbwysedd deunyddiau (Lefel israddedig)
  • Prosesau'r diwydiant nwy (lefel israddedig)

Darlithydd rhan-amser, 2020-2021
Prifysgol Technoleg Amirkabir (Tehran Polytechnic), Yr Adran Ffiseg a Pheirianneg Ynni

  • Effeithiau amgylcheddol ynni (Lefel israddedig)

Darlithydd rhan-amser, 2017-2019
Prifysgol Islamaidd Azad, cangen Gwyddorau Fferyllol

  • Egwyddorion Ffenomena Trafnidiaeth (Lefel israddedig)
Ymchwil Prif Wobrau