Institute of Life Science 1 internal Atrium view up.jpg
Dr Aidan Seeley

Dr Aidan Seeley

Uwch-ddarlithydd, Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 108
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cwblhaodd Aidan ei radd BSc yn y Gwyddorau Biofeddygol (Ffarmacoleg) ym Mhrifysgol Aberdeen ac enillodd ei PhD am ei draethawd ymchwil The role of Itch E3 ubiquitin ligase in receptor signalling and endocytosis ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast cyn cael ei benodi’n ddarlithydd mewn Ffarmacoleg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2018. Erbyn hyn mae'n Gyfarwyddwr cwrs ar gyfer ein graddau Ffarmacoleg Feddygol.

Mae Aidan wedi bod yn aelod (Ffarmacolegwr Gyrfa Gynnar) o Ymddiriedolwyr Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain, ac yn Gadeirydd Grŵp Cynghori Ffarmacolegwyr Gyrfa Gynnar y Gymdeithas. Mae’n Uwch-gymrawd o'r Academi Addysg Uwch a chanddo ddiddordebau mewn cwricwla cynhwysol a chafodd ei ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ffarmacolegol Prydain yn 2022; ef yw'r Cymrawd ieuengaf ers i'r Gymdeithas gael ei sefydlu ym 1931.

Ef yw Prif Ymchwilydd sefydlu Labordy Ymchwil Integreiddiol i Fwydod Abertawe (SWIRL) lle mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar fodelau in vivo at ddibenion addysg ac ymchwil gan ddefnyddio Lumbriculus variegatus.

Meysydd Arbenigedd

  • Ffarmacoleg ymddygiadol
  • Ffarmacoleg
  • Ffarmacocineteg/Ffarmacodynameg
  • Cyffuriau a gamddefnyddir
  • Derbynyddion signalau
  • Datblygu'r cwricwlwm

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Aidan yw Cyfarwyddwr Rhaglenni ar gyfer ein graddau Ffarmacoleg Feddygol ac mae'n arweinydd sawl modiwl israddedig ac ôl-raddedig gyda phrif ffocws ar ffarmacoleg a thocsicoleg.

Ymchwil Prif Wobrau