Gwall
No data found for employee alvin.orbaekwhite
Grantiau a Phrosiectau Allweddol
-
Closed-loop Chemical Recycling (CCR) 2020 - 2021
(Prif Ymchwilydd) Cronfa Gyfalaf Llywodraeth Cymru, £270,000
-
(Cyd-ymchwilydd) Sêr Cymru Llywodraeth Cymru – Mynd i’r afael â Covid-19 2020 - 2021
gyda’r Athro Barron a Dr Alexander, £204,030
-
(Prif ymchwilydd) 2020 - 2022
Cytundeb ymchwil noddedig, £168,000
-
Supporting Collaborative Research and innovation in Europe 2019 - 2020
(Prif ymchwilydd) Swyddfa Gyllido Ewropeaidd Cymru , £2,390
-
MSc Energy Innovation: Upcycling of plastic materials from the healthcare sector 2019 - 2020
(Prif ymchwilydd) KESS2 a’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd , £17,000
-
Engineering for the circular economy. Using nanotechnology to upcycle waste materials into higher-value products such as carbon 2018 - 2019
(Prif Ymchwilydd) KESS2 a’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, Ymchwil MSc. , £16,358
-
Recovery of Graphite Flakes from Steelmaking By-Products 2018 - 2019
(Cyd-ymchwilydd) Innovate UK , £261,336
-
Upcycling Plastics: Carbon Nanomaterials from Waste Plastic 2018
(Prif Ymchwilydd) Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Cronfa Effaith Ymchwil Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) , £5,000
-
Single walled carbon nanotubes for use as electrical wires 2017
(Prif Ymchwilydd) Prifysgol Abertawe a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg , £450
-
UK Nanotube Collaborative, Inaugural Workshop 2016
(Prif Ymchwilydd) Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol , £11,369
-
Cyllid a ddarperir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Llywodraeth Cymru 2016 - 2019
(Prif Ymchwilydd) Cymrodoriaeth Sêr Cymru II , £206,500
-
(Cyd-ymchwilydd) Rhaglen Project SEED yr American Chemical Society 2011
Cyllid gan yr American Chemical Society, $6,000
-
(Cyd-ymchwilydd) Rhaglen Project SEED yr American Chemical Society 2010 - 2010
Cyllid gan yr American Chemical Society, $6,000
Ymgysylltu Cyhoeddus
TROI PLASTIGAU GWASTRAFF YN WIFRAU TRYDAN
Arddangosfa gyhoeddus o fis Hydref 2019 tan 15 Ebrill 2020
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Dechreuodd y prosiect hwn ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'n edrych ar sut i droi plastig gwastraff yn ddeunyddiau defnyddiadwy eraill fel nanodiwbiau carbon, graffîn a ffibr carbon.
Rydym yn datblygu ffyrdd mwy effeithlon o oleuo a gwresogi ein cartrefi. Rydym yn bwriadu lleihau'r ynni sy'n cael ei golli wrth drawsyrru drwy ddefnyddio gwifrau nanodiwb carbon arbennig. Mae'r nanodiwbiau hyn yn cael eu gwneud o bethau fel ffilm blastig denau, pecynnu bwyd plastig du a thoddyddion hylif. Does dim modd ailgylchu'r rhain i gyd yn ein sbwriel cartref.
I weld mwy o fanylion am y wyddoniaeth y tu ôl i'r dechnoleg hon, gwyliwch y daith fideo hon o grŵp ymchwil Dr Orb.
Mae rhagor o fanylion a’r newyddion diweddaraf ar gael yma: http://www.esri-swansea.org/en/from-bin-to-bulb.htm
Ymgysylltu Cyhoeddus
TRI GWYDDONYDD O BRIFYSGOL ABERTAWE YN GADAEL MEINCIAU'R LABORDY AM Y MEINCIAU CEFN SENEDDOL
Tynnodd tri gwyddonydd o Brifysgol Abertawe eu cotiau labordy er mwyn troi eu sylw at ddeddfwriaeth pan wnaethant dreulio wythnos yn San Steffan yn nau Dŷ'r Senedd a Whitehall.
Roedd yr ymweliad, a gynhaliwyd fis diwethaf, yn rhan o gynllun paru unigryw gan y Gymdeithas Frenhinol – Academi Wyddoniaeth Genedlaethol y DU – gyda chymorth gan Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth.
Roedd Dr Enrico Andreoli, athro cyswllt yn Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) y Brifysgol, un o'i gydweithwyr, sef yr uwch-ddarlithydd Dr Alvin Orbaek White (ESRI), a Dr James Cronin, athro cyswllt gwyddorau biofeddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ymysg dim ond 30 o academyddion yn y DU a etholwyd i fod yn bresennol.
Roedd pob un ohonynt yn cael cyfle i gysgodi Aelod Seneddol neu was sifil i ddysgu am waith y rhain, yn ogystal â mynd i seminarau, gwrandawiadau ffug gan Bwyllgorau Dethol a thrafodaethau panel ynghylch sut defnyddir tystiolaeth i lunio polisïau.
Mae'r tri ohonynt yn aelodau o Impackt, sef sefydliad amlddisgyblaethol a sefydlwyd gan Dr Andreoli a Dr Cronin ac a arweinir gan Dr Dion Curry sy'n ceisio dod ag academyddion, diwydiant a'r rhai sy'n llunio polisïau at ei gilydd er mwyn gwella'r effaith y mae ymchwil yn ei chael ar y gymdeithas ehangach.
Yn y cyfamser, cafodd Dr Orbaek White ei baru â gwas sifil yn yr Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau (IPA), sydd wedi'i leoli rhwng Swyddfa'r Cabinet a'r Trysorlys. Meddai: “Cefais sawl cyfarfod â'r staff sy'n ymdrin â'r gwaith o gyflawni carbon sero net a datgarboneiddio erbyn 2050. Roedd pob un o'r cyfarfodydd yn hynod ddadlennol."
Rolau Eraill
-
Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gwyddonol, TrimTabs Ltd
2019 - Presennol
Swyddi Cysylltiedig
-
Aelod o’r Bwrdd Golygyddol, Journal of Carbon Research C (MDPI)
2016 - Presennol
Hanes Gyrfa
-
Sylfaenydd, TrimTabs
2019 - Presennol
-
Uwch Ddarlithydd, Prifysgl Abertawe
2016 - Presennol
-
Cymrawd Sêr Cymru II, Prifysgol Abertawe
2017 - 2020
-
Cymrawd Ôl-ddoethurol, Adran Peirianneg Mecanyddol, Massachusetts Institute of Technology, Cambridge, MA, USA.
2014 - 2016