Dr Antonio Smecca

Swyddog Ymchwil, Physics
607
Chweched Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Dr Smecca ar hyn o bryd yn gwneud ei swydd ôl-ddoethurol gyntaf yn Abertawe, wedi iddo gwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Turin. 

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Ei brif ddiddordeb ymchwil yw Lattice QCD, ymagwedd ddi-aflonyddol at astudio damcaniaethau maes yn rhifiadol. Mae'n gweithio'n bennaf gyda FASTSUM, sef cydweithrediad rhyngwladol sy'n astudio nodweddion hadronau dan amodau eithafol (tymheredd a dwysedd uchel). Yn Abertawe, mae aelodau FASTSUM y mae Dr Smecca yn gweithio gyda nhw'n cynnwys yr Athro Chris Allton, yr Athro Gert Aarts, Dr Tim Burns a Dr M. Naeem Anwar. Yn ogystal, mae e'n gweithio ar brosiectau eraill megis astudio dadfeiliadau lled-leptonig ar y cyd ag aelodau o gydweithrediad ETM ac mae hefyd yn astudio'r sbectrwm gluoniwm gyda Dr Davide Vadacchino o Brifysgol Plymouth.