Dr April Rees

Dr April Rees

Lecturer in Biochemistry
Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Swyddfa Academaidd - 204
Ail lawr - Immunology
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae April yn imiwnolegydd monocytau, ond mae ganddi ddiddordeb mewn celloedd T hefyd. Dyfarnwyd PhD i April gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn 2022 am ei hymchwil i’r ymaddasiadau metabolaidd ac imiwnolegol yn ystod beichiogrwydd. Mae gan April ddiddordeb mawr mewn astudio ymaddasiadau imiwnolegol cyflyrau amrywiol, gan gynnwys beichiogrwydd ac anhwylderau atgenhedlu.

Mae April yn defnyddio technegau sbectrometreg màs a sbectrosgopeg newydd er mwyn ceisio darganfod biofarcwyr yn y gwaed. Ei nod cyffredinol yw rhoi ei hymchwil ar waith mewn lleoliad clinigol, gan ddatblygu dulliau diagnostig a therapiwtig gwell.

Meysydd Arbenigedd

  • Imiwnoleg
  • Metabolaeth imiwnyddol
  • Beichiogrwydd
  • Anhwylderau atgenhedlu, e.e. endometriosis a syndrom ofarïau polysystig (PCOS)
  • Awtoimiwnedd
  • Monocytau
  • Cyflyrau obstetrig, e.e. diabetes yn ystod beichiogrwydd
  • Diagnosteg newydd yn y gwaed

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae April yn darlithio ar y rhaglenni gradd BSc ac MSci Geneteg a Biocemeg, yn ogystal â'r radd MSc Gwyddorau Biofeddygol. Yn benodol, mae April yn defnyddio'r berthynas symbiotig rhwng addysgu ac ymchwil, gan gyfrannu at ddarlithoedd biocemeg, cemeg a bioleg atgenhedlu. Mae'n addysgu'n effeithiol drwy bontio'r bwlch rhwng yr ystafell ddosbarth a'r labordy ac mae wedi goruchwylio prosiectau ymchwil israddedig ac ôl-raddedig yn llwyddiannus. Mae sawl myfyriwr wedi cyfrannu fel awdur a enwyd at bapurau gwyddonol ac wedi mynd ymlaen i astudio meddygaeth neu ddilyn gyrfa ymchwil bellach drwy PhD.

Ymchwil Cydweithrediadau