Trosolwg
Mae gennyf gefndir addysgol cadarn a phrofiad proffesiynol mewn cysyniadoli, dylunio, gweithgynhyrchu, rheoli, rhaglennu a gweithredu robotiaid, ynghyd â systemau synhwyro. Rwy'n ymddiddori'n bennaf mewn Roboteg Feddygol, Roboteg Gynorthwyol, Roboteg Gwasanaeth, Roboteg Symudol, Roboteg Amaethyddol, Systemau Synhwyro.
Dyfarnodd Prifysgol Unisangil (Colombia) radd Baglor (Anrhydedd) mewn Peirianneg Electronig i mi yn 2011. Derbyniais i fy ngradd Meistr (2014) a'm PhD (2018) mewn technoleg uwch gan Sefydliad Polytechnig Cenedlaethol (Mecsico). Ar ben hynny, mewn cytundeb ar ddwy radd, enillais i PhD mewn Peirianneg Sifil, Fecanyddol a Biofecaneg ym Mhrifysgol Cassino (yr Eidal).