Trosolwg
Rwy'n dechnegydd Gwyddor Chwaraeon â chefndir cryf mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, gan fy mod i wedi astudio am radd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe cyn i mi gwblhau MSc ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Ar hyn o bryd, rwy'n ymgymryd â PhD rhan-amser mewn Gwyddor Chwaraeon ochr yn ochr â'm rôl fel technegydd. Mae fy niddordebau a'm harbenigedd yn rhychwantu agweddau amrywiol ar Wyddor Chwaraeon, gan gynnwys arbenigeddau mewn ffisioleg ac iechyd cardiofasgwlaidd ac ymarfer corff a thechnoleg chwaraeon.