Trosolwg
Mae Dr Bryn Willcock wedi bod yn addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ers 1995. Mae hefyd wedi bod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ei brif ddiddordebau addysgu ac ymchwil yn canolbwyntio ar bolisi tramor America, hanes America, terfysgaeth, hanes niwclear yn ogystal â gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop.
Dr Willcock yw'r Swyddog Derbyn ar gyfer Astudiaethau Americanaidd. Ef yw Cydlynydd Blwyddyn Ryngosodol yn America, yn ogystal â Chydgysylltydd y Semester Tramor ar gyfer Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol. Mae'n gyfrifol am y myfyrwyr sy'n ymuno â'r Adran a myfyrwyr ar deithiau cyfnewid hefyd.
Mae Dr Willcock wedi cyfrannu at lyfrau sydd wedi'u cyhoeddi gan yr Oxford University Press a Taylor and Francis. Yn 2010 bu'n rhan o brosiect Ymchwil PartiRep ledled Ewrop (http://www.partirep.eu/project) ac yn 2014 bu'n ymgynghorydd ar Bolisi Cyhoeddus Prydain wrth greu prosiect pleidleisio EUVOX.
Yn 2017 enillodd Dr Willcock Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu, gwobr a gyflwynir i'r rhai sy'n cynnig cymorth rhagorol i fyfyrwyr sy'n astudio yn y Brifysgol.
Fel rhan o Raglen Gyfnewid Erasmus mae Dr Willcock wedi addysgu ym Mhrifysgol Uppsala yn 2018 ac ym Mhrifysgol Gwlad yr Iâ yn 2019 a 2020.