BIO103 Planhigion ac Algâu; Amrywiaeth, Ffurf a Swyddogaeth
Mae darlithoedd ar blanhigion yn cynnwys strwythur, cylch oes a morffoleg prif Amrywiadau byw Teyrnas y Planhigion. Trafodir strwythur fflurol, peillio, gwasgariad ffrwythau ac egino hadau gan gyfeirio’n benodol at y rhyngweithio rhwng planhigion ac anifeiliaid. Dilynir hyn gan ddarlithoedd sy’n cynnwys anatomeg sylfaenol planhigion uwch, o’r cellol i lefel yr organeb gyfan. Bydd darlithoedd ar ffisioleg planhigion yn rhoi ffocws ar blanhigion blodeuo fel organebau cyfan ac yn canolbwyntio’n benodol ar y rhyngweithio rhwng planhigion a’r amgylchedd. Dyma’r pynciau sy’n cael eu cynnwys: ffotosynthesis; cysylltiad â dŵr; maeth mwynau; trawsleoliad organig; twf; ffisioleg ddatblygol. Bydd agweddau ar ecoleg planhigion, y rhyngweithio rhwng planhigion a llysysyddion a phwysigrwydd planhigion mewn meddygaeth yn cael eu cynnwys hefyd. Caiff y darlithoedd ar blanhigion eu hategu gan dair sesiwn labordy ymarferol; Caiff dosbarthiad planhigion is eu hastudio drwy ddatblygu allwedd ddeubarthol; Caiff anatomeg sylfaenol a strwythur celloedd eu hastudio gan ddefnyddio microsgop; Mae arbrofion ffisiolegol yn dangos agweddau ar y cysylltiadau rhwng dŵr a phlanhigion. Hefyd, caiff tacsonomeg a dosbarthiad rhywogaethau o’r prif amrywiadau eu hastudio drwy arddangosiadau’n dangos amrywiaeth eang o sbesimenau, ynghyd ag enghreifftiau o strwythur blodau, mathau o beillio a gwasgariad hadau/ffrwythau. Bydd darlithoedd ar algâu micro, cyanobacteriwm, ac algâu macro yn rhoi trosolwg ar bwysigrwydd yr organebau ffotosynthetig hyn mewn ecoleg ddyfrol ac mewn esblygiad, ac yn y ffordd y gellir eu defnyddio i helpu cymdeithas. Bydd dosbarthiad tacsonomaidd ffenoteipaidd a genoteipaidd yn cael ei gyflwyno ac yna morffoleg ac ecoleg y prif ddosbarthiadau tacsonomaidd. Ceir trosolwg o dechnegau mesur algâu. Bydd rolau algâu micro yn y gadwyn fwyd ficrobaidd a chylchoedd bioddaeargemegol byd-eang gan gynnwys cyflwyniad i flymau niweidiol yn cael eu cynnwys hefyd. Bydd hyn yn arwain at y ffordd y mae algâu yn gynyddol bwysig mewn biotechnoleg a’r ffordd y gellir eu defnyddio er mwyn helpu i roi atebion i faterion cynaliadwyedd cymdeithasol fel y newid yn yr hinsawdd, diogelwch bwyd byd-eang, llygredd a datblygu’r bioeconomi. Bydd un sesiwn labordy ymarferol yn gysylltiedig â’r darlithoedd hyn, gan ddangos amrywiaeth algâu micro a macro a datblygu technegau trin microsgop.
BIO109 Sgiliau Craidd ar gyfer Gwyddorau Biolegol
Caiff y modiwl hwn ei rannu yn dair rhan, ysgrifennu gwyddonol, dadansoddi data a chemeg, a bydd yn rhoi’r sgiliau craidd sydd eu hangen ar fyfyrwyr gydol eu rhaglen radd. Mae cynnwys y modiwl yn cynnwys dealltwriaeth o’r mathau gwahanol o ddata y gellir eu mesur a’u casglu, yr adnoddau i gyflwyno a dadansoddi data a dadansoddiadau data mewn dull ffurfiol, a defnyddio meddalwedd taenlenni mewn ffordd ymarferol. Mae’r pwyslais ar yr ‘ymarferol’ ar gyfer ymdrin â data a datblygu sgiliau dadansoddi mathemategol ac ystadegol sylfaenol. Yn ychwanegol, mae’r modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion blwyddyn gyntaf i’r sgil allweddol o ysgrifennu’n wyddonol, gan ddatblygu eu gallu i leoli, deall, gwerthuso a chyfathrebu gwybodaeth wyddonol. Bydd cemeg sylfaenol yn cael ei chynnwys fel sylfaen i’w phwysigrwydd i brosesau biolegol.
BIO343 Cynhyrchion Naturiol sy’n Ffurfio Ein Byd
Bydd darlithoedd ar fiotechnoleg cynhyrchion naturiol yn cychwyn drwy gyflwyno’r ffordd y gellir defnyddio natur i roi atebion i faterion cynaliadwyedd cymdeithasol fel y newid yn yr hinsawdd, diogelwch bwyd byd-eang, llygredd a datblygu’r bioeconomi. Mae gan natur storfa o foleciwlau organig sy’n amrywio o ran strwythur ac sydd ag amrywiaeth o weithgareddau biolegol sy’n cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar ein bywydau. Bydd darlithoedd yn cynnwys y ffordd y gellir defnyddio algâu, bacteria, ffyngau, planhigion ac anifeiliaid i ddatblygu cynhyrchion naturiol ar gyfer amrywiaeth o raglenni diwydiannol yn cynnwys ar gyfer bwyd, cynhyrchion fferyllol, cosmetigau, gwrteithiau, biodanwyddau, bioplastigau, plaladdwyr, deunyddiau bioadfer, ensymau ac adnoddau ymchwil. Bydd darlithoedd hefyd yn cynnwys y ffordd y gellir defnyddio proffilio metabolynnau, genomeg a biowybodeg er mwyn helpu i ddarganfod a datblygu cynhyrchion naturiol i’w defnyddio’n ddiwydiannol.