Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Dr Christopher Cox

Dr Chris Cox

Cynorthwy-ydd Ymchwil
Faculty of Humanities and Social Sciences

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Ymunodd Chris â Phrifysgol Abertawe ym mis Ebrill 2024 fel cynorthwy-ydd ymchwil i gefnogi datblygu ac ehangu'r Sefydliad Ymchwil i Heriau Geo-Wleidyddol a'r Rhwydwaith Ymchwil i Weithredu ar yr Hinsawdd, ill dau yn rhan o Gyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.  Ymysg ei ddyletswyddau mae nodi meysydd newydd ac arloesol ar gyfer ymchwil gan feithrin cydweithrediad rhyngddisgyblaethol a helpu i gefnogi ceisiadau am gyllid.

Cyn ymuno ag Abertawe, bu Chris yn gweithio fel cynorthwy-ydd/cydymaith ymchwil ar ymchwil agored ym Mhrifysgol Leeds. Yn ddiweddar, mae wedi cwblhau ei PhD yng Ngwleidyddiaeth y Dwyrain Canol yn Sefydliad Astudiaethau Arabaidd ac Islamaidd, Prifysgol Caerwysg. Derbyniodd Chris ysgoloriaeth 1+3 lawn yr ESRC drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol  De-orllewin Lloegr i gynnal ei astudiaethau doethurol yng Nghaerwysg. Teitl ei draethawd ymchwil oedd After the Dust Has Settled: Exploring ‘Residue’ from the 2011 Arab Uprising in Morocco and How it has Shaped Youth Political Participation Over the Years Since.

Ynghyd â'i rôl Cynorthwy-ydd Ymchwil yn Abertawe, mae wrthi'n paratoi ei draethawd ymchwil i'w gyhoeddi gyda chyhoeddiadau eraill o'i ddiddordebau ymchwil. Mae'r rhain yn cynnwys erthygl mewn cyfnodolyn am gyfranogiad ieuenctid a chymdeithas sifil ym Morocco a phennod mewn llyfr ar lwyddiant pêl-droed Llewod Atlas Morocco yng Nghwpan y Byd FIFA 2022 a'i effeithiau ar Affricaniaeth. Mae ef hefyd wrthi'n ymchwilio i syniadau a chyfleoedd ymchwil newydd i'w dilyn yn y dyfodol agos.

Mae ei arbenigedd a'i ddiddordebau ymchwil yn bennaf mewn gwleidyddiaeth gymharol yn rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA), lle bu ei PhD yn ymchwilio i effeithiau tymor hwy ac etifeddiaeth Gwrthryfeloedd Arabaidd 2011 (Arab Spring) ar gyfranogiad gwleidyddol ieuenctid ac ar lawr gwlad ym Morocco. Mae hefyd yn arbenigo mewn meysydd sy'n cynnwys galluedd ieuenctid a gwleidyddol, gwydnwch awdurdodaidd, dynameg yr wrthblaid o dan awdurdodyddiaeth, actifiaeth wleidyddol a symudiadau cymdeithasol (gan gynnwys Damcaniaeth Symudiadau Cymdeithasol Newyddion), cymdeithas sifil, pleidiau gwleidyddol, ieuenctid a gweithredu ar yr hinsawdd, cymorth democrataidd dramor a chwaraeon (pêl-droed yn bennaf) a chyfranogiad gwleidyddol a hunaniaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Gwleidyddiaeth gymharol yn y Dwyrain Canol a rhanbarth Gogledd Affrica (MENA)
  • Galluedd ieuenctid a gwleidyddol
  • Gwydnwch awdurdodaidd a gwleidyddiaeth gwrthbleidiau
  • Actifiaeth wleidyddol, pleidiau a mudiadau cymdeithasol
  • Gwrthryfeloedd Arabaidd 2011

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae ymchwil Chris yn canolbwyntio'n bennaf ar archwilio ymagweddau, safbwyntiau a phrofiadau llawr gwlad ynghylch dulliau cyfranogi gwleidyddol. Felly, mae'n ymdrin â llawer o ffyrdd o fynegi a chyfranogi gan gynnwys y canlynol (ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr): aelodaeth o blaid wleidyddol, cyfranogi mewn actifiaeth wleidyddol, rhyngweithiadau â mudiadau cymdeithasol, cyfranogi yn y gymdeithas sifil, mynegiant ar-lein a mwy.  

Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar sut mae rhyngweithiadau o'r fath yn cael eu cynnal mewn achosion awtocratig a democrateiddio, lle mae cyfleoedd i wrthwynebu ac anghytuno yn cael eu cwtogi neu y cyfyngir arnynt yn draddodiadol. Gan ystyried hyn, mae'n ymchwilio i themâu megis grymuso dinasyddion, deinameg gwrthwynebu ac a yw cyfranogi llawr gwlad yn gallu effeithio ar berthnasoedd sefydledig rhwng y wladwriaeth a'r gymdeithas ac, os felly, sut. Mae wedi archwilio'r elfennau hyn mewn perthynas â ffenomenau cymdeithasol-wleidyddol o bwys megis Gwrthryfeloedd Arabaidd 2011, ym Morocco yn bennaf, ond hefyd yn yr Aifft, yn Tunisia ac yng Ngwlad yr Iorddonen. 

Hyd heddiw, mae ei ymchwil yma wedi canolbwyntio ar alluedd ieuenctid a gwleidyddol, lle mae ef hefyd wedi dadansoddi ac ymchwilio i ddeinameg groestoriadol o ran sut mae nodweddion amrywiol unigolion a grwpiau yn llywio cymdeithasoli gwleidyddol, canfyddiadau, agweddau a chyfranogi drwy ddulliau gwahanol. 

Mae ef hefyd wedi dechrau ymchwilio'n ddyfnach i fynegiant a chyfranogiad gwleidyddol ymhlith pobl ifanc drwy ‘ultras’ pêl-droed, ynghyd â hunaniaethau cenedlaethol a thrawswladol, gan gyfeirio at achos Morocco hyd yn hyn. 

Yn ei rôl fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yn Abertawe, mae Chris yn helpu i nodi meysydd ymchwil newydd ac arloesol ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda'r Sefydliad Ymchwil i Heriau Geo-Wleidyddol (GCRI) a'r Rhwydwaith Ymchwil i Weithredu ar yr Hinsawdd (CARN), gan helpu i ddatblygu'r Sefydliadau Ymchwil/Rhwydweithiau Ymchwil, archwilio a chefnogi gwaith datblygu cynigion ymchwil a chefnogi ymchwilwyr gyda'u prosiectau.  

Prif Wobrau