Trosolwg
Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar fodiwleiddio a mesur gweithgaredd niwral. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn plastigrwydd a sut mae ein hymennydd yn addasu ac yn datblygu fel rhan o'r broses heneiddio. Trwy ddefnyddio paradeimau ymddygiadol, technegau niwroddelweddu a dulliau ysgogi'r ymennydd, rwy'n anelu at ymchwilio i newidiadau sy'n gysylltiedig ag oedran o fewn rhanbarthau ymennydd penodol a rhwydweithiau niwral gwasgaredig ym maes iechyd a chlefydau.
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar dudalen Labordy Plastigrwydd yr Ymennydd.
• BSc (Anrh), Seicoleg, Prifysgol Abertawe • MRes, Delweddu'r Ymennydd a Niwrowyddoniaeth Wybyddol, Prifysgol Birmingham • PhD, Seicoleg (Dulliau Niwroddelweddu Uwch), Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)