Dr Cai Ladd

Darlithydd
Geography

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Swyddfa Academaidd - 240
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Daearyddwr arfordirol ydw i ac mae fy ymchwil yn archwilio sut mae prosesau biolegol, ffisegol a chymdeithasol yn rhyngweithio ar draws graddfeydd lleol a rhanbarthol i lunio gwlyptiroedd arfordirol a'r cymunedau sy'n dibynnu arnynt. Mae fy ngwaith yn croesi disgyblaethau bio-geomorffoleg, gwydnwch ecolegol-gymdeithasol a chynaliadwyedd gwasanaethau ecosystem. Defnyddiaf ystadegau gofodol, monitro hydrolegol a gwyddoniaeth dinasyddion er mwyn datblygu cyngor ymarferol ac offer rheoli i gefnogi cadwraeth gwlyptiroed arfordirol.

Meysydd Arbenigedd

  • Gwlyptiroed Arfordirol
  • Bio-geomorffoleg
  • Systemau Ecolegol-gymdeithasol
  • Hydroleg
  • Geomateg
  • Ystadegau Gofodol
  • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
  • Gwyddoniaeth Dinasyddion

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rwy'n ymgorffori fy ymchwil yn fy addysgu er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu â materion byd-eang cyfoes, dulliau o'r radd flaenaf a chwestiynau ymchwil allweddol ym maes daearyddiaeth. Dyma rai enghreifftiau:

  • Sesiynau ymarferol i feintioli stociau carbon pridd organig gan ddefnyddio gwaith maes, gwaith labordy a sesiynau cyfrifiadur ymarferol
  • Darlithoedd ar beryglon byd-eang allweddol a sut y mae cymdeithasau'n eu rheoli ac yn addasu'n unol â hwy
  • Gweithdai trafod data, creu ffigurau a llunio ystadegau gofodol gan ddefnyddio R.
Ymchwil Cydweithrediadau