Trosolwg
Ymunodd Cerin Brain â Phrifysgol Abertawe ym mis Ebrill 2024 fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yn y Grŵp Ymchwil i Ddiabetes, yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae hi'n ymwneud â gwaith datblygu dyfeisiau arloesol sydd wedi'u dylunio i reoli diabetes yn y man lle rhoddir gofal, ac mae hi'n cymryd rhan weithredol mewn dadansoddiadau yn y labordy.
Ar hyn o bryd, mae Cerin yn astudio am ei PhD, gan ganolbwyntio ar effeithiau hyfforddiant ar sail cyfnodau dwys (HIIT) ar reoli glwcos mewn unigolion dros bwysau a'r rhai sydd â chyn-ddiabetes. Nod ei hymchwil yw cyfrannu craffter gwerthfawr a all wella gofal cleifion a gwella canlyniadau iechyd.