Conor Heath

Mr Conor Heath

Swyddog Ymchwil ACTIVATE, Health Data Science

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Mae Conor Heath yn Gynorthwy-ydd Ymchwil sy'n gweithio ar y prosiect ACTIVATE, ymyrraeth ddigidol ar ffonau clyfar sy'n cynnwys Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT) fel triniaeth ar gyfer PTSD a/neu niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ymhlith cyn-filwyr y fyddin.

Ar hyn o bryd mae Conor yn fyfyriwr ôl-raddedig mewn Dylunio Profiad Defnyddiwr, yn astudio'r rhyngweithiadau rhwng pobl a chyfrifiaduron. Mae ei brofiad ymchwil yn cynnwys niwed sy'n gysylltiedig â gamblo o hysbysebu chwaraeon, a dylunio ymyraethau ar gyfer niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.

Meysydd Arbenigedd

  • Niwed sy'n gysylltiedig â gamblo
  • Rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron
  • Hysbysebu chwaraeon
  • Gemau fideo
  • Dadansoddi Data
  • Dulliau Ymchwil Meintiol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Gambling, cryptocurrency, and financial trading app marketing in English Premier League football: A frequency analysis of in-game logos - https://doi.org/10.1556/2006.2023.00066

Gambling, cryptocurrency, and financial trading sponsorships in high-level men's soccer leagues: An update for the 2023/2024 season - https://doi.org/10.1089/glr2.2023.0028