Dr Catrin Griffiths

Ymchwil Uwch Darlithydd
Public Health

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Catrin Griffiths yn Seicolegydd Iechyd Siartredig (wedi'i chofrestru gyda'r BPS a'r HCPC) ac yn Ddarlithydd Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gan Catrin dros 14 blynedd o brofiad o ymchwil ac addysgu mewn ymchwil gymhwysol, golwg/delwedd y corff a seicoleg iechyd.

Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar fwydo babanod, bwydo ar y fron, seicoleg iechyd, anafiadau llosgi, canser y fron ac ailadeiladu'r fron, Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT), iechyd y cyhoedd, anhwylderau bwyta ac ymchwil i olwg/delwedd y corff. Mae ei gwaith blaenorol wedi cynnwys nodi ffactorau amddiffynnol, pryderon ac anghenion cymorth pobl sydd â chyflwr neu anaf sydd wedi effeithio ar eu golwg a'r rhai sydd â phryderon ynghylch delwedd y corff.

Mae gan Catrin brofiad o ddatblygu a phrofi ymyriadau hybu iechyd a mesuriadau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs). Cyn hynny, bu'n gweithio yn y Ganolfan Ymchwil i Olwg (CAR) yn UWE, Bryste am dros 11 mlynedd ac arweiniodd raglen ymchwil i ddatblygu Graddfeydd Llosgi CARe, sef set o fesuriadau canlyniadau a adroddir gan gleifion (h.y. PROMs) i nodi ansawdd bywyd pobl sydd wedi cael anaf llosgi.

Am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad at gopïau am ddim o'r graddfeydd, ewch i: Home (careburnscales.org.uk)

Mae Tîm Graddfeydd Llosgi CARe yn croesawu cydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol ac wedi gweithio gyda thimau yn y Ffindir a Norwy i gyfieithu a dilysu'r graddfeydd i'r Ffinneg a Norwyeg.

Os ydych chi'n glinigwr neu'n ymchwilydd sydd â diddordeb mewn cyfieithu a dilysu'r Graddfeydd Llosgi CARe i iaith wahanol, cysylltwch â ni.

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae Catrin yn addysgu ar y cwrs MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd a'r BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae'n goruchwylio traethodau hir myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a myfyrwyr doethuriaeth/PhD.

Meysydd Arbenigedd

  • Bwydo babanod a bwydo ar y fron
  • Seicoleg Iechyd
  • Iechyd y Cyhoedd
  • Delwedd y corff / gwahaniaeth gweladwy
  • Llosgiadau
  • Ansawdd bywyd
  • Datblygu a dilysu mesuriadau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs)
  • Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT)

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Bwydo babanod a bwydo ar y fron

Seicoleg Iechyd

Iechyd y Cyhoedd

Delwedd y corff / gwahaniaeth gweladwy

Therapi Derbyn ac Ymrwymiad