Trosolwg
Rwy’n ymchwilydd tanau gwyllt sy’n angerddol am ei phwnc ac am weithio gyda phobl wych ym mhob cwr o’r byd. Dilynais gwrs gradd mewn Bioleg (2003) ym Mhrifysgol Oviedo (Sbaen) a chael Doethuriaeth yno yn 2009 hefyd. Yn 2011, symudais i Abertawe i ddechrau fy ngwaith ar danau gwyllt, pwnc sydd wedi bod o ddiddordeb i mi erioed.
Mae fy ngwaith ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar effeithiau tân, tanau gwyllt a llosgiadau wedi’u rhagnodi, ac ar ddynameg carbon. Rwy’n astudio effaith tân ar bridd a dŵr hefyd, canfyddiadau cymdeithasol o dân, ac ymddygiad tanwydd a thân. Rydw i wedi bod yn ddigon lwcus i wneud gwaith maes mewn llawer o ecosystemau gwahanol ar hyd a lled y byd fel rhostiroedd yr Iwerydd (y DU a Sbaen), safanau trofannol (De Affrica), y goedwig foreal (Canada) neu’r goedwig sych sgleroffylaidd (Awstralia). Rwy’n olygydd cyswllt y Journal of Geophysical Research-Biogeosciences ac yn hoff iawn o weithgareddau allgymorth bob amser gan gynnwys sgyrsiau ac erthyglau ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol.