Trosolwg
Graddiodd yr Athro David B. Clarke gyda BA (Anrh) mewn Daearyddiaeth (Dosbarth Cyntaf) a PhD o Brifysgol Manceinion. Mae'n adnabyddus am ei gyfraniadau i'r 'tro diwylliannol' mewn Daearyddiaeth Ddynol, gan gynnwys gwaith ar y gymdeithas defnyddwyr, y ddinas sinematig a damcaniaeth ôl-strwythuriaeth, gyda ffocws penodol ar Jean Baudrillard. Mae wedi cyhoeddi ar bob math o bynciau eraill, gan gynnwys yr Holocost, iwtopia a dystopia, gwerth, diwylliant poblogaidd a'r cyfryngau.