Data Science Building
Professor David Ford

Yr Athro David Ford

Athro Gwybodeg
Health Data Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513404

Cyfeiriad ebost

402
Pedwerydd Llawr
Yr Adeilad Gwyddor Data
Campws Singleton

Trosolwg

Yr Athro David Ford yw Athro Gwybodeg Prifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.  

Mae'r Athro Ford wedi sicrhau mwy na £70m mewn prosiectau ymchwil newydd a grantiau isadeiledd a ddyfarnwyd gan gyllidwyr o fri dros y blynyddoedd diwethaf. Ef yw Prif Ymchwilydd Ymchwil Data Gweinyddol (ADRC) Cymru, sef buddsoddiad gwerth £7.2m yng Nghymru gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) fel rhan o'i fenter Data Mawr. Ef yw Prif Ymchwilydd Cofrestr Sglerosis Ymledol y DU (a ariennir gan MS Society); Prif Ymchwilydd ar y Cyd y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol (a ariennir gan Ymddiriedolaeth Nuffield); Dirprwy Gyfarwyddwr HDR UK yng Nghymru a Gogledd Iwerddon; Prif Swyddog Data BREATHE – Hyb Ymchwil Iechyd Anadlol.  

Yr Athro Ford yw Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Banc Data SAIL, a SeRP (y Platfform e-Ymchwil Diogel), a ddefnyddir yn fwyfwy gan ymchwilwyr a cheidwaid data ledled y byd er mwyn curadu a rhannu'r data'n ddiogel.  

Meysydd Arbenigedd

  • Gwybodeg Iechyd
  • e-Iechyd
  • Gwasanaethau Iechyd
  • Iechyd Poblogaethau
  • Diogelu Data a Phreifatrwydd
  • Dadansoddi Data Mawr
  • Data gweinyddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae'r Athro Ford yn addysgu isadeiledd data, ailddefnyddio data at ddibenion ymchwil, a llywodraethu gwybodaeth.  

Ymchwil Prif Wobrau