Dr Daniele Cafolla

Darlithydd mewn Roboteg a Deallusrwydd Artiffisial
Computer Science
334
Trydydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Enillodd Daniele Cafolla radd MSc ddeuol mewn peirianneg fecanyddol yn 2012 ym Mhrifysgol Cassino, yr Eidal, a Phrifysgol Panamerica, Mecsico. Rhwng 2013 a 2014, roedd yn ymchwilydd gwadd ym Mhrifysgol Dechnolegol Nanyang, Singapore. Yn 2016, enillodd PhD mewn Peirianneg Fecanyddol. Bu'n Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Cassino, yr Eidal, ac ym Mhrifysgol Dechnegol Cluj-Napoca, Rwmania, yn 2016 a 2017. Ers mis Gorffennaf 2018, ef yw Cyfarwyddwr Labordy Biofecatroneg yn Sefydliad Ymchwil Glinigol IRCCS Neuromed, yr Eidal. Ym Mhrifysgol Tor Vergata, Rhufain, bu'n Ddirprwy Athro mewn Mecaneg Robotiaid a Ffiseg Gymhwysol, ac yn Gymrawd Ymchwil yn LARM. Yn 2023, ymunodd â Phrifysgol Abertawe, y Deyrnas Unedig, fel Darlithydd mewn Roboteg a Deallusrwydd Artiffisial.

Mae Dr Cafolla yn ymwneud â sawl prosiect ym maes niwroroboteg, roboteg gynorthwyol, roboteg archwilio, roboteg ddynolffurf, mecatroneg, synwyryddion, biomecaneg, dylunio mecanyddol, rhyngweithio rhwng robotiaid a phobl a phrototeipio cyflym. Mae'n awdur llyfr a nifer o bapurau mewn cyfnodolion a chynadleddau. Mae'n aelod o IFToMM, IEEE ac I-RIM.

Meysydd Arbenigedd

  • Roboteg ddynolffurf
  • Roboteg archwilio
  • Roboteg gynorthwyol a chymdeithasol a deallusrwydd artiffisial
  • Rhyngweithio a rhyngwynebau deallus rhwng pobl a robotiaid;
  • Defnyddio roboteg a atgyfnerthir gan ddeallusrwydd artiffisial mewn diwydiant a'r byd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Byddaf yn integreiddio fy narlithoedd damcaniaethol gyda gweithgareddau ymarferol. Trwy gydweithio ar aseiniadau cwrs, bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau meddal hanfodol fel rhwydweithio, gan feithrin y cyfalaf cymdeithasol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus. Ar ben hynny, bydd fy myfyrwyr yn rhyngweithio â grwpiau amlddiwylliannol i ddeall safbwyntiau, diwylliannau a ffyrdd o fyw gwahanol.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau