Dr Deb Roy

Dr Deb Roy

Uwch-ddarlithydd
Chemistry

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604279

Cyfeiriad ebost

436
Trydydd Llawr
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Enillais fy ngradd gyntaf mewn Gwyddor Deunyddiau yn yr Indian Institute of Technology, Kharagpur (India) a Doethuriaeth ar Spectrosgopeg Raman Nanostrwythurau Carbon o Brifysgol Caergrawnt (DU).

Yn 2003, ymunais â Grŵp yr Athro Syr Mark Welland yn y Nanoscience Centre yng Nghaergrawnt (DU) a datblygu prototeip o sbectrosgopeg Raman cydraniad uchel a system ddelweddu yn y modd adlewyrchu.

Yn 2005, ymunais â’r National Physical Laboratory i sefydlu maes technegol ar Nanobrobau Dadansoddol ac Optegol i ddatblygu gwyddor mesur i roi’r DU mewn sefyllfa briodol ar gyfer bionanodechnolegau sy’n dod i’r amlwg. Yn ystod y cyfnod hwn, derbyniais sawl gwobr am bapurau gorau, ysgogi’r broses o safoni’n rhyngwladol spectrosgopeg Raman a chychwyn y gynhadledd ryngwladol ar sbectrosgopeg Raman. Rydw i wedi rhoi sgyrsiau gwadd mewn cynadleddau gwyddonol rhyngwladol yn ogystal â chyfarfodydd diwydiannol.

Yn 2017, ymunais â Phrifysgol Abertawe i ddatblygu gweithgareddau ymchwil ar ddadansoddi laser a nanowyddoniaeth. Mae meysydd diddordeb yn cynnwys nanobiotechnoleg, deunyddiau uwch a synwyryddion.

Meysydd Arbenigedd

  • Sbectroscopeg Raman
  • Spectrosgopeg Raman Blaen Gwell
  • Graffen a Deunyddiau 2D
  • Delweddu Raman Cydlynol ar gyfer Systemau Biolegol
  • Synwyryddion a Diagnosteg Moleciwlaidd Digidol