Trosolwg
Enillodd Demi radd BSc (Anrh.) mewn Bioleg o Brifysgol Caerdydd. Cwblhaodd ei blwyddyn hyfforddiant proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o'i gradd israddedig. Aeth ymlaen i astudio am PhD ym Mhrifysgol Abertawe dan oruchwyliaeth yr Athro Gareth Jenkins, a theitl ei thraethawd ymchwil oedd: ‘Developing an in vitro repeat-dose approach to detect non-genotoxic carcinogens (NGCs)’.
Wrth ysgrifennu ei thraethawd ymchwil, dechreuodd Demi weithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y grŵp ymchwil bioleg fesiglau allgellog gyda Dr Jason Webber ac yna dechreuodd ail rôl yn y grŵp ymchwil. Roedd y ddwy rôl yn canolbwyntio ar ganser y prostad a'i ganfod yn gynnar gan ddefnyddio fesiclau allgellog fel biofarcwyr yn y gwaed.