Trosolwg
Libby Chancer yw’r darlithydd pwnc ar gyfer mathemateg yn yr adran addysg gychwynnol i athrawon. Mae ganddi gefndir mewn addysg fathemateg uwchradd ac addysg gychwynnol a pharhaus i athrawon. Roedd Libby yn gweithio fel athrawes fathemateg mewn ysgol uwchradd am nifer o flynyddoedd cyn dod yn ddarlithydd prifysgol.
Addysg uwchradd yw ei phrif arbenigedd a hefyd mae ganddi brofiad o ddarlithio ar gyrsiau BA mewn Astudiaethau Addysg a TAR Cynradd hefyd.
Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys yr egwyddorion a’r addysgeg sy’n berthnasol i addysg fathemateg. Mae ei thraethawd ymchwil doethur yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu disgyblion i feddwl yn haniaethol a sut mae hyn yn eu cefnogi i ddatrys problemau ym maes Mathemateg. Hefyd mae ganddi brofiad o oruchwylio myfyrwyr MA ac addysgu ar raglenni MA.
Ar hyn o bryd Libby yw’r swyddog asesu ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon ac mae ganddi ddiddordeb brwd yn y ffordd y mae darparwyr AGA yn defnyddio data er mwyn tracio a chefnogi cynnydd myfyrwyr drwy gydol eu rhaglenni.