Trosolwg
Mae Ceri yn ddarlithydd Newyddiaduriaeth yn Adran Y Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus. Mae'n gwneud ymchwil ym maes cyfathrebu gwleidyddol, gan ganolbwyntio'n benodol ar wleidyddiaeth pleidiau lleiafrifol, crefydd a gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth ddadleuol a chamwybodaeth.
Derbyniodd ei ddoethuriaeth o Ysgol Newyddiaduriaeth a Chyfathrebu Torfol Prifysgol Wisconsin-Madison ble roedd hefyd yn Gymrawd Ymchwil Sefydliad Knight i'r Ganolfan Cyfathrebu ac Adnewyddu Dinesig. Mae'n gyd-awdur llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n archwilio toriadau mewn cyfathrebu dinesig a chymdeithas sifil yn nalaith Wisconsin, ‘Battleground: Asymmetric communication ecologies and the erosion of civil society in Wisconsin’
Cyn ymuno ag Abertawe, roedd yn Ymchwilydd Cyswllt ym Mhrifysgol Caerdydd ar astudiaeth a ariannwyd gan AHRC- 'Countering disinformation: enhancing journalistic legitimacy in public service media'. Roedd yr ymchwil hwn yn archwilio i rôl cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus y DU yn yr 'infodemic' presennol, gan gwestiynu eu gallu i weithredu mewn amgylchedd o newyddion ffug a'r ymdeimlad o wirionedd ('truthiness').
Mae ei ymchwil wedi ei gynnwys yn y Washington Post, The Conversation, Salon, The New Yorker, Vox a'r Washington Post Monkey Cage, ac mae wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu a radio.