Trosolwg
Mae Fatemeh Torabi yn Swyddog Ymchwil a Dadansoddwr Data ym Mhrifysgol Abertawe, Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR-UK) Cymru a Gogledd Iwerddon ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Ystadegau. Mae ei chefndir yn y maes ystadegau mathemategol a gwyddor data iechyd. Cyn ymuno â HDR UK, aeth ati i ddatblygu prosiectau amrywiol yn Hyb Deallusrwydd Gofal Iechyd Darbodus, fel rhan o Sefydliad Farr. Mae ei diddordebau ymchwil yn cwmpasu dulliau dadansoddol a chyfrifiannol newydd ar gyfer casgliadau ystadegol mewn data paneli ac iechyd y boblogaeth. Ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio data iechyd ar raddfa fawr fel rhan o raglen Ymchwil Data Cardiaidd.