Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Dr Gideon Calder

Dr Gideon Calder

Athro Cysylltiol mewn Athroniaeth Gymdeithasol a Pholisi, Politics, Philosophy and International Relations

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Fi yw Pennaeth yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, ac rwy'n darlithio'n bennaf am gyfiawnder cymdeithasol, a phlant a'r teulu. Mae fy niddordebau ymchwil presennol yn ymwneud yn bennaf â dau faes ar wahân: cyfleoedd plant mewn bywyd, a chydgynhyrchu. Fi yw awdur neu olygydd 11 o lyfrau – yn fwyaf diweddar Ethics, Economy and Social Science: Dialogues with Andrew Sayer – yn ogystal â mwy na 60 o erthyglau a phenodau. Rwy'n golygu'r cyfnodolyn Ethics and Social Welfare ar y cyd, ar ôl golygu Res Publica yn y gorffennol – ac rwyf wedi bod yn adolygydd i fwy na 40 o gyfnodolion academaidd gwahanol. Fi yw Is-gadeirydd y Gymdeithas Polisi Cymdeithasol (SPA) a Chadeirydd Comisiwn Tegwch Casnewydd, yn ogystal â bod yn un o Gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol er Hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach (RSA).

Meysydd Arbenigedd

  • Plant, y teulu a chyfiawnder cymdeithasol
  • Cydgynhyrchu
  • Damcaniaeth ac ymarfer lles cymdeithasol
  • Damcaniaeth gymdeithasol
  • Athroniaeth wleidyddol
  • Moeseg gymhwysol a phroffesiynol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Cydraddoldeb ac anghydraddoldeb

Plant, y teulu a chyfiawnder cymdeithasol

Ideolegau gwleidyddol

Cymdeithaseg a gwleidyddiaeth polisi cymdeithasol

Athroniaeth ymchwil

Ymchwil