A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon.

Dr Greg Herman

Uwch-ddarlithydd
Modern Languages

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604729

Cyfeiriad ebost

110
Llawr Cyntaf
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Greg Herman (MA Anrh; MLitt; PhD; TAR; FHEA) yn Uwch Ddarlithydd mewn Ffrangeg yn yr Adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd. Roedd ei PhD (Prifysgol Aberdeen, 2013) yn canolbwyntio ar gofnod Jorge Semprun, un o alltudion Buchenwald yn yr Ail Ryfel Byd ac yn arbennig y tensiwn, sy'n bresennol yng ngwaith Semprun drwyddo draw, rhwng ei 'devoir de mémoire'  y mae'n gosod ar ei hun a'i awydd ar yr un pryd i anghofio'r gorffennol trawmatig.

Yn dilyn ei ddoethuriaeth, cwblhaodd Greg TAR (Ffrangeg Uwchradd) gyda Phrifysgol Cumbria, ac ar ôl hynny dechreuodd yn ei swydd gyda Phrifysgol Abertawe ym mis Medi 2014. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ddamcaniaethau ail(-)gyflwyno yn sinema gyfoes Ffrainc ac yn arbennig gwaith Céline Sciamma a François Ozon. Mae Greg yn croesawu ymholiadau am oruchwylio ôl-raddedigion ym mhob maes o lenyddiaeth a diwylliant Ffrengig a Ffrangeg o'r 20fed a'r 21ain Ganrif.

Ar lefel israddedig, ac yn rhinwedd ei swydd fel Tiwtor Derbyn, mae Greg hefyd yn croesawu cyswllt gan ddarpar fyfyrwyr sy'n awyddus i drafod eu taith i Addysg Uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Sinema Ffrengig Cyfoes
  • Rhywedd a Rhywioldeb
  • Trawma a Chof
  • Addysgeg a Chaffael 2il Iaith

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Yn sail i lawer o addysgu Greg mae awydd i 'ddweud y gwir wrth y rhai mewn grym.’ Yn canolbwyntio ar ail(-)gyflwyno prosesau ymyleiddio, cynhwysiant ac allgáu, mae ei addysgu israddedig yn cwmpasu'r cyfnod gwladychu hyd heddiw, ac yn cydblethu dulliau damcaniaethol ag arferion diwylliannol i feithrin dealltwriaeth o gymdeithas gyfoes a'r hyn y mae'n ei olygu i berthyn. Mae hefyd yn cyfrannu at y modiwl adran gyfan, 'Introduction to Language Teaching', ac yn cynnull y modiwl blwyddyn olaf 'Classroom Practices' sydd, drwy baru myfyrwyr ag ysgolion lleol, yn rhoi profiad ymarferol amhrisiadwy i fyfyrwyr os ydynt yn dymuno symud ymlaen i'n rhaglen TAR mewn Ieithoedd Tramor Modern. Mae Greg hefyd yn addysgu Ffrangeg a chyfieithu ar draws pob grŵp blwyddyn israddedig. 

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau