Dr Gethin Thomas

Dr Gethin Thomas

Uwch-ddarlithydd
Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606426

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
120
Llawr Cyntaf
Adeilad Margam
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n uwch-ddarlithydd sŵoleg gyda diddordeb eang yn y modd y mae organebau lletyol a pharasitiaid yn rhyngweithio. Rwy’n cydlynu Ail Flwyddyn Biowyddorau Prifysgol Abertawe, ac rwy'n dysgu modiwlau ym meysydd amrywiaeth anifeiliaid, parasitoleg a llenyddiaeth wyddonol i israddedigion. Rwy'n Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch ac yn rhedeg ymgynghoriaeth arolygu cregyn gleision dŵr croyw yn fy amser hamdden. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar newidiadau ymddygiadol a ffisiolegol organebau lletyol yn dilyn heintiad gan barasitiaid, gan ddefnyddio poblogaethau o anifeiliaid lled-wyllt. Rwy'n brofiadol mewn ystod eang o ddulliau samplu, gan gynnwys technegau morol a dŵr croyw, gyda phwyslais ar barasitoleg a ffisioleg anifeiliaid cyfan. Rwy'n aelod o sawl pwyllgor prifysgol a chenedlaethol, ac ar hyn o bryd yn cadeirio Panel Gwyddorau Naturiol y Coleg Cymraeg. Rwy’n banelwr rheolaidd ar raglen Galwad Cynnar ar BBC Radio Cymru.

Meysydd Arbenigedd

  • Sŵoleg
  • Parasitoleg
  • Bioleg dŵr croyw
  • Cregyn gleision dŵr croyw

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

BIO114: Animal Diversity and Behaviour

BIO114C: Amrywiaeth ac Ymddygiad Anifeiliaid

BIO228 Parasitology

BIO231 Year 2 Biological Sciences Literature Review

BIO231C Adolygiad Llenyddiaeth Blwyddyn 2

BIO251 Biosciences Year 2 field course alternative assessment

BIO260 Marine Biology Field Course

BIOM37B Conservation of Aquatic Resources